O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U
2011Rhif 211 (Cy.42) (C.11)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Cychwyn) 2011
2 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14(3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008( 1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.-(1)Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Cychwyn) 2011.
(2)Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
Y dyddiad penodedig
2.Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 7 Chwefror 2011.
|
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
|
2 Chwefror 2011 |
|
YR ATODLEN
Erthygl 2
Darpariaethau Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 sy'n Dod i Rym ar 7 Chwefror 2011
Y ddarpariaeth |
Y pwnc |
Adran 1 |
Pwer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG |
Adran 2 |
Iawn o dan y rheoliadau |
Adran 3 |
Ymofyn am Iawn |
Adran 4 |
Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn |
Adran 5 |
Dull darparu iawn |
Adran 6 |
Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad |
Adran 7 |
Cyngor cyfreithiol,
etc.
|
Adran 8 |
Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn |
Adran 9 |
Swyddogaethau o ran trefniadau iawn |
Adran 10 |
Cwynion |
Adran 11 |
Gorchmynion a rheoliadau |
Adran 12 |
Pwer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc. |
Adran 13 |
Dehongli |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn adrannau 1 i 13 yn gynwysedig o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 ("y Mesur"), gan fod yn effeithiol o 7 Chwefror 2011 ymlaen.
Cychwynnwyd adran 14 o'r Mesur hwn drwy Gydsyniad Brenhinol.
Pan wneir y Gorchymyn hwn, bydd holl adrannau'r Mesur mewn grym.
Mae effaith darpariaethau'r Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 7 Chwefror 2011 fel a ganlyn:
Mae adran 1 yn sefydlu pwer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd adran 1 yn gymwys. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd, fel y'i diffinnir yn is-adran (4), ar ran person neu gorff a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad a darparu gwasanaethau cymwys, yng Nghymru neu yn rhywle arall, fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae adran 2 yn darparu, yn ddarostyngedig i...