Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/1414 (Cymru) |
Year | 2003 |
2003Rhif 1414 (Cy.166 )
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003
29 Mai 2003
30 Mai 2003
TREFN YR ERTHYGLAU
1. |
Enwi, cymhwyso, cychwyn a darfod |
2. |
Dehongli |
3. |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid |
4. |
Marcio anifeiliaid sy'n teithio i sioeau |
5. |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi wrthynt |
6. |
Grwpiau meddiannaeth unigol |
7. |
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau |
8. |
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr |
9. |
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol |
10. |
Trwyddedau penodol |
11. |
Trwyddedau cyffredinol |
12. |
Copïau o drwyddedau |
13. |
Cydymffurfio â thrwyddedau, a.y.y.b. |
14. |
Glanhau a diheintio |
15. |
Newid meddiannaeth safleoedd |
16. |
Gorfodi |
17. |
Dirymu |
ATODLEN 1 |
Symud o safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur |
ATODLEN 2 |
Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981( 1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso, cychwyn a darfod
1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 30 Mai ac mae'n pedio â bod yn effeithiol ar 1 Awst 2003.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ac eithrio buail ac iacod), ceirw, geifr, moch a defaid;.
ystyr "canolfan gasglu" ("collecting centre") yw safle a ddefnyddir ar gyfer derbyn, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw'n cynnwys marchnad neu rywle arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i'r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth);
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliaid, hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 9(2)(a), mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;
ystyr "cyfnod segur" ("standstill period") yw cyfnod pan na chaniateir i anifeiliaid gael eu symud oddi ar safle oherwydd darpariaethau erthygl 3(1)(b);
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i "grwp meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a briodolir iddo gan erthygl 6;
mae i "lladd-dy" yr ystyr a roddir i "slaughterhouse" yn Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 ( 2);
ystyr "milfeddyg" ("veterinary surgeon") yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;
mae "safle" ("premises") yn cynnwys tir ag adeiladau neu dir hebddynt;
mae "tir" ("land") yn cynnwys tir comin neu dir heb ei amgáu; ac
yn achos geifr mae "triniaeth filfeddygol" ("veterinary treatment") yn cynnwys casglu semen.
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
3. - (1) Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle -
(a) oni symudir yr anifail o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd; a(b) ond nid os na symudwyd defaid, geifr neu wartheg i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol, ac os na symudwyd moch i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol ("y cyfnod segur").(2) Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur -
(a) os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 1, neu(b) os dyroddwyd trwydded sy'n datgymhwyso'r cyfnod segur gan arolygydd milfeddygol.(3) Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.
(4) Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002( 3) (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
(5) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud -
(a) sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983( 4), neu(b) i unrhyw sw a drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 neu oddi yno ( 5).Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd
4. Ni chaiff neb symud defaid neu eifr i sioe neu arddangosfa oni bai iddynt gael eu marcio â Rhif adnabod unigol yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002( 6).
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno
5. Gwaherddir i unrhyw berson -
(a) symud unrhyw anifail i ladd-dy ac eithrio at ddibenion ei gigydda o fewn 48 awr iddo gyrraedd yno; neu(b) derbyn unrhyw anifail o ladd-dy oni wneir hynny, yn achos unrhyw anifail heblaw mochyn, o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.Grwpiau meddiannaeth unigol
6. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
7. - (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd -
(a) gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, caniatâd neu awdurdodiad a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd o unrhyw fath;(b) gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded neu ganiatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill yr Ysgrifennydd Gwladol;(c) gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu(ch) gan un o arolygwyr awdurdod lleol, yn achos trwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.(2) Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
8. Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol
9. - (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd -
(a) symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu(b) unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.(2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff 1 ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn -
(a) na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu drwydded gyffredinol mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle dan sylw neu oddi yno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a(b) bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.(3) Rhaid i hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) gael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn...
To continue reading
Request your trial