Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 48 (yr Hendy) i Gyffordd 49 (Pont Abraham), Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 50 MYA Dros Dro) 2017
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2017/661 |
2017Rhif 661 (Cy. 152)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed15Mai2017
Yn dod i rym22Mai2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o yr M4 Llundain i Dde Cymru Draffordd, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a chyfyngu arno ar ddarnau penodedig o'r draffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y draffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mai 2017. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 48, (yr Hendy) i Gyffordd 49 (Pont Abraham), Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 50 MYA Dros Dro) 2017.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt”(“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 20:00 o'r gloch ar 22 Mai 2017 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y draffordd” (“the motorway”) yw'r M4 Llundain i Dde Cymru Draffordd rhwng Cyffordd 48 (yr Hendy) a Chyffordd 49 (Pont Abraham) yn Sir Gaerfyrddin;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiad a Chyfyngiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darnau o'r draffordd a bennir yn Atodlen 1.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, na pheri na chaniatáu i unrhyw...
To continue reading
Request your trial