1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â’r gofynion cofrestru ar gyfer endidau tramor, yn enwedig cwmnïau tramor a’r gofynion lle maent yn wahanol i’r rheiny ar gyfer cwmnïau’r DU. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am gwmnïau tramor, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig tramor a gwladwriaethau tramor.

2. Diffiniad o gwmni tramor

At ddibenion cofrestru ac at ddibenion y cyfarwyddyd hwn ystyr ‘endid tramor’ yw endid sydd wedi ei gorffori, ei ffurfio, neu ei lywodraethu gan gyfraith tiriogaeth sydd y tu allan i’r DU. Mae hyn yn cynnwys endidau sydd wedi eu corffori, eu ffurfio neu eu llywodraethu yn:

  • un o Ynysoedd y Sianel (Jersey neu Guernsey fel arfer)
  • Ynys Manaw
  • Gweriniaeth Iwerddon (mae cwmnïau sydd wedi eu corffori yng Ngogledd Iwerddon yn gwmnïau’r DU)

Mae’n cynnwys:

  • unrhyw gwmni tramor
  • unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dramor neu Grŵp Budd Economaidd y DU sydd â bodolaeth gyfreithiol ar wahân i’w bartneriaid neu aelodau unigol

Felly dylai cyfeiriad at gwmni tramor gael ei ddehongli fel cyfeiriad at bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dramor neu Grŵp Budd Economaidd y DU hefyd oni nodir fel arall.

Ystyr ‘gwladwriaeth dramor’ yw unrhyw wlad heblaw’r DU, llywodraethau tramor a rhai awdurdodau cyhoeddus.

At ddibenion Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 mae i endid tramor yr ystyr a roddir gan adran 2 o’r Ddeddf honno. Yn yr adran hon ystyr “endid tramor” yw endid cyfreithiol sydd wedi ei lywodraethu gan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU ac ystyr “endid cyfreithiol” yw corff corfforaethol, partneriaeth neu endid arall sydd (ym mhob achos) yn berson cyfreithiol o dan y gyfraith sy’n ei llywodraethu.

3. Y Gofrestr Endidau Tramor 3.1 Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Bydd y rhannau o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 a fydd yn creu Cofrestr Endidau Tramor a gedwir gan Dŷ’r Cwmnïau yn dod i rym ar 1 Awst 2022. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i endidau tramor sy’n berchen ar eiddo yn y DU neu sy’n bwriadu caffael eiddo yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, oni bai eu bod yn esempt, i ddarparu gwybodaeth am eu perchnogion llesiannol neu swyddogion rheoli a diweddaru’r wybodaeth hon yn flynyddol. Wrth gofrestru, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn dyroddi rhif adnabod yr endid tramor unigryw ar gyfer pob endid tramor. I gael gwybodaeth am ofynion cofrestru Tŷ’r Cwmnïau gweler Cofrestru endid tramor a dweud wrthym am ei berchennog llesiannol.

Mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 dim ond yn berthnasol i endidau tramor a gafodd eu cofrestru fel perchennog ystad gymwys ar neu ar ôl 1 Ionawr 1999.

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn diwygio Deddf Cofrestru Tir 2002 trwy fewnosod Atodlen 4A newydd. Daw i rym ar 5 Medi 2022, 5 wythnos ar ôl i ddarpariaethau Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 gychwyn sy’n caniatáu i endidau tramor wneud cais am rif adnabod yr endid tramor.

Fel yr esbonia’r cyfarwyddyd hwn, bydd darpariaethau Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn atal Cofrestrfa Tir EF rhag cofrestru endid tramor fel perchennog ‘ystad gymwys’ oni bai bod yr endid tramor wedi cael rhif adnabod yr endid tramor yn gyntaf. Mewn rhai achosion, bydd angen rhif adnabod yr endid tramor ar endid tramor cyn iddo wneud gwarediad.

Efallai y bydd angen i endid tramor a fydd yn gorfod cael rhif adnabod yr endid tramor er mwyn gwneud cais i gofrestru yng Nghofrestrfa Tir EF neu i wneud gwarediad ar neu’n fuan ar ôl 5 Medi 2022 weithredu’n brydlon pan fydd y Gofrestr Endidau Tramor yn cael ei chreu ar 1 Awst 2022. Dylai’r oedi o 5 wythnos rhwng creu’r Gofrestr Endidau Tramor a chychwyn Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 roi digon o amser i endid tramor sydd yn gorfod cael rhif adnabod yr endid tramor erbyn 5 Medi 2022 ei gael.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn nodi sut i gydymffurfio â Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys, neu warediad a ddisgrifir isod gan endid tramor o ystad gymwys.

Mae nifer o’n ffurflenni penodedig a chymal penodedig LR3 o brydles cymalau penodedig yn cael eu diwygio gan Reolau Cofrestru Tir (Diwygiad) 2022 er mwyn caniatáu i rif adnabod yr endid tramor gael ei ddarparu neu ei gadarnhau pan nad yw’n ofynnol.

3.1.1 Ystad gymwys

At ddibenion Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 ac Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae ystad gymwys yn golygu ystad rydd-ddaliol mewn tir, neu ystad brydlesol mewn tir a roddwyd am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi.

3.1.2 Cyfnod trosiannol

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn darparu cyfnod trosiannol yn dechrau ar 1 Awst 2022 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2023 pan all endidau tramor (wedi eu cofrestru cyn 1 Awst 2022) waredu eu heiddo heb orfod cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, er bod adran 42 o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn darparu ar gyfer rhoi manylion y gwarediad a pherchnogaeth lesiannol yr endid tramor i Dŷ’r Cwmnïau.

3.1.3 Ceisiadau i gofrestru endid tramor fel perchennog a wnaed rhwng 1 Awst 2022 a 5 Medi 2022

Er nad yw Atodlen 4A yn dod i rym tan 5 Medi 2022 bydd yn effeithio ar geisiadau i gofrestru endid tramor fel perchennog a wnaed ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Os ydych yn cyflwyno cais i gofrestru endid tramor rhwng 1 Awst 2022 a 4 Medi 2022 yn gynwysedig nid oes rhaid ichi ddarparu rhif adnabod yr endid tramor, ond caiff cyfyngiad ei ychwanegu at deitl yr endid tramor ar neu ar ôl 5 Medi 2022. Mae hyn oherwydd bod Atodlen 4A yn gosod rhwymedigaeth ar y Cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad lle mae endid tramor wedi ei gofrestru fel perchennog ar neu ar ôl 1 Awst 2022. Bydd y cyfyngiad yn dod i rym yn syth o’r dyddiad y caiff ei gofnodi. Os yw’r endid tramor wedi cael rhif adnabod yr endid tramor yn ystod y cyfnod hwn, gallwch ei gynnwys gyda’ch cais a byddwn yn ei gofnodi yn y gofrestr.

3.2 Cyfyngiadau ar gofrestru gwarediadau gan endidau tramor

Mae paragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn rhoi dyletswydd ar Gofrestrfa Tir EF i gofnodi cyfyngiad yng nghofrestr ystad gymwys os yw’r cofrestrydd yn fodlon bod endid tramor wedi ei gofrestru fel perchennog yr ystad a’i fod wedi ei gofrestru fel y perchennog yn unol â chais a wnaed ar neu ar ôl 1 Ionawr 1999.

Mae’r cyfyngiad canlynol wedi ei gofnodi (neu caiff ei gofnodi) mewn cofrestri o dan baragraff 6:

Ar ôl 31 Ionawr 2023 ni chaiff unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(d) (a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

Mae’r geiriad yn adlewyrchu’r cyfnod trosiannol pan all endid tramor waredu ei eiddo heb orfod cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Daw’r cyfyngiad i rym ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol ar 31 Ionawr 2023 er bod adran 42 o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn darparu ar gyfer rhoi manylion am y gwarediad a pherchnogaeth lesiannol yr endid tramor i Dŷ’r Cwmnïau.

Bydd y cyfyngiad canlynol yn cael ei gofnodi mewn cofrestri o dan baragraff 3 o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, hynny yw ar gyfer pob endid tramor sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru fel perchennog ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Ni chaiff unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

3.3 Ceisiadau sydd wedi eu dal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2002 yn gymwys i’r mathau canlynol o geisiadau a gwarediadau.

  • Trosglwyddiadau o ystad gymwys i endid tramor.
  • Trosglwyddiadau o ystad gymwys gan endid tramor.
  • Prydlesi cofrestradwy am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi i endid tramor, sydd wedi eu rhoi o ystad gymwys.
  • Prydlesi cofrestradwy am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi gan endid tramor, sydd wedi eu rhoi o ystad gymwys.
  • Arwystlon cofrestradwy gan endid tramor.
  • Ceisiadau am gofrestriad cyntaf o ystad gymwys lle mae’r ceisydd yn endid tramor.
  • Ceisiadau meddiant gwrthgefn i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys.

Rhaid ichi ddarparu rhif adnabod yr endid tramor dilys neu, os yw’n gymwys, nodi pa eithriad a ganiateir (gweler Eithriadau ac esemptiadau) rydych yn dibynnu arno pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gwarediad gan endid tramor sydd wedi ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022.

3.3.1. Gweithredoedd amrywio

Efallai y bydd gweithred amrywio yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, bydd cais i gofrestru gweithred amrywio prydles sy’n gyfystyr ag ildiad ac ail-roi (lle mae’r cyfnod yn cael ei estyn neu lle mae’r stent a brydlesir wedi ei gynyddu) yn cael ei ystyried yn gais i gofrestru ildiad o deitl prydlesol presennol y tenant a chofrestru rhoi’r brydles newydd o deitl y landlord. Felly:

  • os yw’r tenant yn endid tramor ac mae cyfyngiad ar y teitl prydlesol
    • ni chaiff yr ildiad ei ddal gan y cyfyngiad, gan nad yw ildiadau yn warediadau o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
    • bydd yn rhaid i’r tenant ddarparu rhif adnabod yr endid tramor dilys yn ei gais i gofrestru’r brydles newydd
  • os yw’r landlord yn endid tramor ac mae cyfyngiad ar deitl y landlord, bydd cofrestriad y brydles yn cael ei ddal gan y cyfyngiad a bydd tystiolaeth o gydymffurfio yn ofynnol (gweler Cais i gofrestru neu gynnwys gwarediad gan endid tramor sydd wedi ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022)
3.4 Y dystiolaeth...