Rheoliadau Addysg (Peidio ƒ Chodi Tƒl sy'n Ymwneud ƒ Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/860 (Cymru) |
Year | 2003 |
2003 Rhif 860 (Cy.107)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003
25 Mawrth 2003
6 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 457(4)(b)(iii) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1) , ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).
Enw, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "Credyd Treth i Blant" a "Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio" yr ystyr a roddir i "Child Tax Credit" a "Working Tax Credit" yn Neddf Credydau Treth 2002(3).
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996; ac
ystyr "incwm blynyddol" ("annual income") yw yr incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(4) ).
Budd-dâl neu Lwfans Rhagnodedig
3. Mae cymorth a ddarperir i riant o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999(5) yn cael ei ragnodi ar gyfer dibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996.
Credydau Treth Rhagnodedig
4. Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol:
(a) pan fydd gan riant hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a(b) pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant(6).Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 yn gofyn bod gan ysgolion bolisi ar waith, ar gyfer peidio â chodi unrhyw dâl sydd fel arall yn daladwy mewn perthynas â bwyd a llety i ddsigyblion penodol ar deithiau preswyl. Mae'n rhaid bod y polisi peidio â chodi unrhyw dâl yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn derbyn budd-dâl neu lwfans penodol, neu y mae ei riant â hawl i gredydau treth penodol, sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer dibenion yr adran.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi at ddibenion adran 457...
To continue reading
Request your trial