Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/287 (Cymru) |
Year | 2003 |
2003Rhif 287 (Cy.39)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003
12 Chwefror 2003
18 Chwefror 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996( 1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(7) ac (8) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002( 3), ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992( 4) ), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Darpariaethau dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 5);
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002;
ystyr "penderfyniad perthnasol" ("relevant decision") yw unrhyw benderfyniad a wnaed ar ôl 31 Awst 1994 gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol (sy'n cynnwys penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad o ddisgybl a wneir am gyfnod penodedig yn barhaol), yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 neu baragraff 7 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 1993( 6);
ystyr "person perthnasol" ("relevant person") yw -
(a) mewn perthynas â disgybl o dan 18, ei riant;(b) mewn perthynas â disgybl sydd wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, y disgybl ei hun.Apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol o uned cyfeirio disgyblion
3. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 52(7) o Ddeddf 2002 y person all apelio i banel apelau yn erbyn penderfynad i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion.
(2) Y person a ragnodir yw'r person perthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl sy'n destun penderfyniad perthnasol.
Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
4. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith -
(a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r...To continue reading
Request your trial