Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010

JurisdictionWales
CitationWSI 2010/2712 (Cymru)
Year2010

2010Rhif 2712 (Cy.228)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010

9 Tachwedd 2010

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006( 1) o ran Cymru, ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 5(5) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 61(2)( 2) o'r Ddeddf honno, cafodd offeryn drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1)Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2)Deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.

(3)Maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

2.-(1)Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007( 3) fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o "iar ddodwy", mewnosoder-

"ystyr "iar fwyta a fegir yn gonfensiynol" ("conventionally reared meat chicken") yw anifail o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir er mwyn cynhyrchu cig, ac eithrio-

(a) un sydd ar ddaliad gyda llai na 500 o anifeiliaid o'r fath neu gyda stociau bridio anifeiliaid o'r fath yn unig;

(b) un y gellir defnyddio'r term "Extensive indoor (barn reared)" ("A fegir yn helaeth dan do (mewn cytiau)"), "Free range" ("Iar fuarth"), "Traditional free range" ("Iar fuarth- dull traddodiadol") neu "Free range - total freedom" ("Iar fuarth - dull hollol rydd") o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod( 4);

(c) un a fegir yn organig yn unol a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig ac sy'n dirymu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91( 5);".

(3)Yn Atodlen 4 (Adar: Gofynion Wrth Roi Triniaethau Penodol a Ganiateir)-

(a) yn lle paragraff A1 (pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1), rhodder-

"Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1

A1.Ni chaniateir rhoi'r triniaethau a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1, ac eithrio tocio pigau (gweler paragraff 5), ar y canlynol-

(1)ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol; neu

(2)iar ddodwy, neu gyw y bwriedir iddo fod yn iar ddodwy...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT