Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2015/655 (Cymru)
Year2015

2015Rhif 655 (Cy. 52)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015

9 Mawrth 2015

11 Mawrth 2015

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62 a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol( 1)1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993( 2), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru( 3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2015.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

2.-(1) Mae Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993( 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 i'r Atodlen, ar ôl yr adran "Small Business Rate Relief", yn lle "Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008" rhodder "Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2015"

(3) Ym mharagraff 1 o Ran 2 i'r Atodlen ar ôl yr adran "Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach", yn lle "Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008" rhodder "Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015".

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("Rheoliadau 1993") yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i'w rhoi pan fyddant yn cyflwyno hysbysiadau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy roi cyfeiriadau at Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 yn lle cyfeiriadau at Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ardrethi sy'n daladwy ar ôl 31 Mawrth 2015.

(1) 1988 p. 41. Amnewidiwyd paragraff 2(2)(g) i (ge) i Atodlen 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42)ac Atodlen 5 iddi. Mewnosodwyd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT