Rheoliadau Asesu''r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2007/2933 (Cymru) |
Year | 2007 |
2007 Rhif 2933 (Cy.253)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007
Gwnaed 8th October 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9th October 2007
Yn dod i rym 31th October 2007
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721mewn perthynas â mesurau ynghylch—
(a) y gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd a fyddai gan brosiectau sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd2; a
(b) cadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt3.
Maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno:
RHAN 1
Darpariaethau cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2007.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr ag “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 19474;
ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad a roddir o dan reoliad 15(1);
ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—
(a) Cyngor Cefn Gwlad Cymru5;
(b) Asiantaeth yr Amgylchedd6;
(c) unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, corff statudol neu sefydliad arall sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, ag unrhyw fuddiant yn y prosiect neu sy'n dal unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i'r prosiect;
ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—
(a) sy'n cynnwys cymaint o'r wybodaeth yn Rhan 1 o Atodlen 3 ag y mae ei hangen yn rhesymol i asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect ac y gellid yn rhesymol, o roi sylw penodol i wybodaeth gyfredol a dulliau asesu, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd am gydsyniad ei chrynhoi, ond
(b) sy'n cynnwys o leiaf yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 2 o Atodlen 3;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n ofynnol o dan reoliad 12(1);
ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC7ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC8;
ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC9ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt10;
ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi'i wneud, neu y bernir ei fod wedi'i wneud, gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(1) neu 7(7);
ystyr “prosiect” (“project”) yw—
(a) cyflawni gwaith adeiladu neu osodiadau neu gynlluniau eraill; neu
(b) ymyriadau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a'r tirlun;
ystyr “prosiect ailstrwythuro” (“restructuring project”) yw prosiect i ailstrwythuro daliadau tir gwledig;
ystyr “prosiect sylweddol” (“significant project”) yw prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, neu y bernir eu bod wedi penderfynu, ei fod yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn unol â rheoliad 7(1) neu reoliad 7(7);
ystyr “prosiect tir heb ei drin” (“uncultivated land project”) yw prosiect i gynyddu at ddibenion amaethyddiaeth gynhyrchiant tir heb ei drin neu ardal lled-naturiol, ac mae'n cynnwys prosiectau i gynyddu at ddibenion amaethyddiaeth gynhyrchiant tir o'r fath i bwynt islaw'r norm;
ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin lle mae'r tir perthnasol wedi'i leoli'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;
ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitats Regulations”) yw Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 199411;
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle a ddisgrifir ym mharagraffau (a), (b), (d) neu (e) o reoliad 10(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd;
ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw'r tir y mae'r prosiect i'w gyflawni arno (neu y mae wedi'i gyflawni arno).
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb AEA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Gyfarwyddeb berthnasol.
(3) Rhaid gwneud neu roi mewn ysgrifen bob cais, hysbysiad, sylw, archiad, cymeradwyaeth a chytundeb o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae “ysgrifen” ym mharagraff (3), ac eithrio pan fo'n gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 24 a 26, yn cynnwys cyfathrebiad electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 200012, ond dim ond drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig y caniateir i hysbysiadau, y mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru eu rhoi, gael eu rhoi i unrhyw berson os yw'r derbynnydd arfaethedig—
(a)
(a) ei hun wedi defnyddio'r dull hwnnw o gyfathrebu electronig wrth gyfathrebu â Gweinidogion Cymru o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu
(b)
(b) wedi mynegi fel arall bod y dull hwnnw o gyfathrebu electronig yn fodd y gallai personau ei ddefnyddio i gyfathrebu ag ef.
(5) Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy'r post.
Cymhwyso'r Rheoliadau
3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin, onid yw'n esempt o dan baragraff (2) neu (3).
(2) Mae prosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin yn esempt—
(a)
(a) os yw'n brosiect a grybwyllir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 199913;
(b)
(b) os yw'n gyfwerth â datblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu' Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 199914yn gymwys iddo;
(c)
(c) os yw'n gyfwerth â gwaith gwella a gyflawnir gan gorff traenio o fewn ystyr “drainage body” yn Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Traeniad Tir) 199915;
(ch)
(ch) os yw'n gyfwerth â phrosiect perthnasol o fewn ystyr “relevant project” yn rheoliad 3(2) a (3) o Reoliadau Adnoddau Dwr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 200316;
(d)
(d) os yw'n gyfwerth â thynnu gwrychoedd (perthi) ymaith o fewn ystyr “removal of a hedgerow” yn rheoliad 5(1) o Reoliadau Gwrychoedd (Perthi) 199717; neu
(dd)
(dd) os yw'n gyfwerth â chodi unrhyw adeilad neu ffens, neu adeiladu unrhyw waith arall, y mae'n ofynnol cael cydsyniad ar ei gyfer o dan adran 194 o Ddeddf Eiddo 192518.
(3) Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i'r graddau y mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb AEA, yn cyfarwyddo y bydd yn esempt rhag rheoliadau 4 i 35 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu y bydd yn debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i'r graddau y sicrheir cydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â'r prosiect y bydd y pwer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—
(a)
(a) ystyried a fyddai unrhyw ddull arall o asesu'r prosiect yn briodol; a
(b)
(b) cymryd unrhyw gamau y maent yn credu eu bod yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—
(i) yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth roi'r cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a
(ii) yr wybodaeth a gafwyd o unrhyw asesiad o'r prosiect o dan is-baragraff (a).
RHAN 2
Sgrinio
Y gofyniad am benderfyniad sgrinio
4.—(1) Rhaid i berson beidio â dechrau na chyflawni prosiect tir heb ei drin oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.
(2) Rhaid i berson beidio â dechrau cyflawni prosiect ailstrwythuro y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny (trothwy a gyfrifir yn unol â rheoliad 5) oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.
Trothwyon
5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer dyfarnu a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny.
(2) Mae'r trothwy ar gyfer y math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi'i nodi yng ngholofn 2 neu 3.
(3) Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro yn cynnwys dim ond un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1.
(4) Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni'n gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy a bennir yng ngholofn 2 yw'r trothwy sy'n gymwys i'r prosiect hwnnw.
(5) Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni, neu pan fo unrhyw ran ohono i'w chyflawni, mewn ardal sensitif, y trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3 yw'r trothwy sy'n gymwys iddo.
(6) Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi'i ffurfio o fwy nag un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—
(a)
(a) rhaid i bob rhan berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn dyfarnu'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno, a
(b)
(b) os yw unrhyw ran berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno neu'n uwch nag ef, yna mae'r prosiect ailstrwythuro cyfan i'w drin fel un y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys iddo neu'n uwch na'r trothwy...
To continue reading
Request your trial