Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2007/399 (W45) (Cymru) |
Year | 2007 |
2007 Rhif 399 (Cy.45)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud 14th February 2007
Yn dod i rym 16th February 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13 a 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19722;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;
mae “gweithrediaeth” i'w dehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
3.—(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau —
(a)
(a) gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —
(i) wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu
(ii) ac eithrio gan weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu
(b)
(b) dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —
(a)
(a) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,
(b)
(b) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddo, neu
(c)
(c) yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth —
(a)
(a) diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu
(b)
(b) dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau dyfarnu —
(a)
(a) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —
(i) o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);
(ii) o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);
(iii) o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno3;
(iv) o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);
(b)
(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);
(c)
(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau o ran unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch)
(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw ei dyroddi neu ei ddyroddi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a
(d)
(d) pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf 2000, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) iddi gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
4.—(1) Caniateir i'r y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.
(2) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i weithrediaeth i'r awdurdod.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig
5.—(1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —
(a)
(a) llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;
(b)
(b) llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu
(c)
(c) llunio neu baratoi unrhyw gynllun arall y mae ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo neu strategaeth arall y mae ei mabwysiadu neu ei chymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 6(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(2) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.
(3) Y camau dynodedig yw —
(a)
(a) rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithrediaeth ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;
(b)
(b) diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;
(c)
(c) cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;
(ch)
(ch) mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).
(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —
(a)
(a) mae'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —
(i) yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu
(ii) wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond
(b)
(b) nid yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i unrhyw raddau eraill.
(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —
(a)
(a) o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu)4; neu
(b)
(b) o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n ofynnol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 19855,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.
(7) Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —
(a)
(a) swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;
(b)
(b) y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—
(a)
(a) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19926, p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu
(b)
(b) dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,
mae'r camau...
To continue reading
Request your trial