Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007

JurisdictionWales
CitationWSI 2007/397 (W43) (Cymru)
Year2007

2007 Rhif 397 (Cy.43)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud 14th February 2007

Yn dod i rym 16th February 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1) a 32(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001:

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

S-2 Dehongli

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau amgen;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) at ddibenion rheoliad 16 yw awdurdod lleol neu Fwrdd;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19722;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;

ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grwp gwleidyddol yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 19903;

mae “gweithrediaeth” i'w ddehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000;

ystyr “prif bwyllgor craffu” (“principal scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(a);

ystyr “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yw pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c);

ystyr “pwyllgor ardal” (“area committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(b);

ystyr “pwyllgor craffu” (“scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(b);

ystyr “pwyllgor cynllunio” (“planning committee”) yw pwyllgor i'r awdurdod â chanddo bwer dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny yn Atodlen 1, a hwnnw'n bwyllgor a adnabyddir fel y Pwyllgor Cynllunio neu unrhyw deitl arall a ddarperir yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr “pwyllgor trwyddedu” (“licensing committee”) yw'r pwyllgor a sefydlir o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol ynglyn â chyflawni eu swyddogaethau sy'n drefniadau yn unol â rheoliad 3.

S-3 Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

3.—(1) Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.

(2) Mae trefniadau amgen yn drefniadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 20014.

(3) Pennir bod trefniadau sy'n unol â pharagraff (2) yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

(4) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd yn drech.

S-4 Sefydlu Bwrdd

Sefydlu Bwrdd

4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu Bwrdd.

(2) Rhaid i'r Bwrdd beidio â chynnwys cadeirydd neu ddirprwy gadeirydd yr awdurdod lleol na chadeirydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor arall i'r awdurdod.

(3) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddirprwyo ei swyddogaethau i Fwrdd, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn rheoliadau 10 i 13.

(4) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i Fwrdd yn unol â pharagraff (3).

(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a wneir o dan reoliad 16, caiff y Bwrdd drefnu bod unrhyw un o'i swyddogaethau yn cael eu cyflawni —

(i)

(i) gan aelod o'r Bwrdd;

(ii)

(ii) gan is-bwyllgor i'r Bwrdd;

(iii)

(iii) gan swyddog i'r awdurdod.

S-5 Sefydlu pwyllgorau eraill

Sefydlu pwyllgorau eraill

5.—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu'n unol â rheoliad 6 —

(a)

(a) prif bwyllgor craffu; a

(b)

(b) unrhyw bwyllgorau craffu ychwanegol (heb fod yn llai na thri nac yn fwy nag wyth o ran nifer) y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer.

(2) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu —

(a)

(a) pwyllgor cynllunio;

(b)

(b) unrhyw bwyllgorau ardal y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer;

(c)

(c) pwyllgor archwilio;

(ch)

(ch) pwyllgor apelau cyflogi;

(d)

(d) uchafswm o bedwar pwyllgor arall, y caiff rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer, a'r rheini'n bwyllgorau y mae'r unig swyddogaethau y maent yn eu harfer yn rhai nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith niwrnod i'r penderfyniad.

(3) Mae'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yn ychwanegol at unrhyw bwyllgorau y mae'n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i'r awdurdod eu sefydlu.

S-6 Prif Bwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Craffu

Prif Bwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Craffu

6.—(1) O ran prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath:

(a)

(a) rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw aelodau o'r Bwrdd; a

(b)

(b) rhaid iddo gael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod; ac

(2) Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei brif bwyllgor craffu a'i bwyllgorau craffu bwer rhyngddynt i wneud y canlynol —

(a)

(a) adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu graffu ar y penderfyniadau hynny neu'r camau eraill hynny, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(b)

(b) cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(c)

(c) cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod (neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod lleol neu unrhyw gyd-bwyllgor y mae gan yr awdurdod lleol gynrychiolydd arno) ar faterion sy'n effeithio ar ardal yr awdurdod neu drigolion yr ardal honno;

(ch)

(ch) yn achos penderfyniad sydd wedi'i wneud ond sydd heb ei weithredu, argymell y dylai'r penderfyniad gael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad hwnnw neu drefnu bod ei swyddogaeth o dan is-baragraff (a) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff prif bwyllgor craffu na phwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth onid yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.

(5) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol, o ran cynnal adolygiadau gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19995yn gyfrifoldeb Bwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu bod y prif bwyllgor craffu neu unrhyw bwyllgor craffu yn cynnal adolygiad o'r fath.

(6) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu —

(a)

(a) benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; a

(b)

(b) trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(7) Ni chaiff is-bwyllgor i brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).

(8) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sy'n galluogi —

(a)

(a) unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;

(b)

(b) unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac

(c)

(c) prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig y Bwrdd i'r awdurdod lleol ar yr amod bod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.

(9) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor o'r fath nac unrhyw is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(10) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath —

(a)

(a) ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)

(b) gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.

(11) Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (10) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.

S-7 Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Archwilio

7.—(1) I'r graddau y caniateir i bwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad gael eu dirprwyo i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.

(2) O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c):

(a)

(a) rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a

(b)

(b) rhaid iddo beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â Chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan fo un grŵp gwleidyddol yn unig);

(c)

(c) caiff benodi un neu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT