Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

JurisdictionWales
CitationWSI 2016/639 (W175) (Cymru)
Year2016

2016 Rhif 639 (Cy. 175)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

Gwnaed 12th July 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12th June 2016

Yn dod i rym 2nd August 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriadau at ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/ECa 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/ECSenedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009ac (EC) Rhif 953/20093gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)4o’r Ddeddf honno.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

S-1 Enwi, cymhwyso a chychwyn

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Awst 2016.

S-2 Dehongli

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gofyniad UE penodedig” (“specified EU requirement”) yw darpariaeth yn Rheoliad yr UE a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda’r darpariaethau yng ngholofn 2;

ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/ECa 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/ECSenedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009ac (EC) Rhif 953/2009.

(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf wedi eu neilltuo i awdurdod iechyd porthladd drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19846, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod iechyd porthladd y maent wedi eu neilltuo iddo.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriad at Erthygl yn Rheoliad yr UE, neu Atodiad iddo.

(4) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn Rheoliad yr UE sydd wedi ei chynnwys yn y tabl yn Atodlen 1, ac eithrio cyfeiriad at Erthygl 1(1), yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

S-3 Gorfodi

Gorfodi

3. Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

S-4 Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

4.—(1) Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(2) Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.

(4) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys i hysbysiad gwella a gyflwynir mewn perthynas â gofyniad UE penodedig, gyda’r addasiadau (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2.

(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys i hysbysiad gwella a gyflwynir mewn perthynas â gofyniad UE penodedig, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2.

(6) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, i’r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac sydd wedi eu haddasu ganddynt.

(7) Y darpariaethau o’r Ddeddf a bennir at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)

(a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl);

(b)

(b) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(c)

(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(d)

(d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(e)

(e) adran 29 (caffael samplau);

(f)

(f) adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd);

(g)

(g) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);

(h)

(h) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol);

(i)

(i) adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);

(j)

(j) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);

ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.

S-5 Dirymu

Dirymu

5. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a) Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 20077;

(b) rheoliadau 26 a 27 o Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 20078;

(c) Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 20109;

(d) rheoliad 3 o Reoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 201410.

S-6 Diwygiadau i offerynnau statudol

Diwygiadau i offerynnau statudol

6. Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2016

ATODLEN 1

Rheoliad 2(1)

Gofynion UE penodedig

Colofn 1

Darpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE

Colofn 2

Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gyda’r ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE

Erthygl 4(2) (gofyniad i fwyd perthnasol gael ei ragbecynnu)

Erthyglau 1(1) a 4(1)

Erthygl 9(1) (gofyniad i gyfansoddiad bwyd fod yn briodol ac yn addas o ran maeth)

Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(3)

Erthygl 9(2) (gwahardd sylweddau mewn meintiau peryglus)

Erthyglau 1(1) a 4(1)

Erthygl 9(5) (gofynion o ran labelu, cyflwyno a hysbysebu bwyd perthnasol)

Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(6)

Erthygl 10 (gofynion ychwanegol ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

Erthygl 4(1)

ATODLEN 2

Addasu darpariaethau’r Ddeddf

1 Addasu adran 10

RHAN 1Rheoliad 4(1)

Addasu adran 10

SCH-2.1

1. Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

SCH-2.1

“1 If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU requirement, or has placed food on the market that does not comply with a specified EU requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a) state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply, or as the case may be, that the food does not comply with the specified EU requirement;

(b) specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c) specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d) require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”

SCH-2.2

2. Nid yw adran 10(3) yn gymwys.

SCH-2.3

3. Ar ôl adran 10(3) mewnosoder—

SCH-2.4

“4 In this section “specified EU requirement” has the meaning given to that term in regulation 2(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016.”

2 Addasu adran 32

RHAN 2Rheoliad 4(2)

Addasu adran 32

SCH-2.4

4. Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

“(a)

“(a) to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU requirement; and

(b)

(b) to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of such a requirement;”.

SCH-2.5

5. Nid yw adran 32(9) yn gymwys.

SCH-2.6

6. Ar ôl adran 32(9) mewnosoder—

SCH-2.10

“10 In this section “specified EU requirement” has the meaning given to that term in regulation 2(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016.”

3 Addasu adran 35

RHAN 3Rheoliad 4(3)

Addasu adran 35

SCH-2.7

7. Yn adran 35 (cosbi troseddau), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

SCH-2.1A

“1A A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016, is liable, on summary conviction, to a fine.”

4 Addasu adran 37

RHAN 4Rheoliad 4(4)

Addasu adran 37

SCH-2.8

8. Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

SCH-2.1

“1 Any person who is aggrieved by a decision of an...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT