Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2007/116 (W7) (Cymru) |
Year | 2007 |
2007 Rhif 116 (Cy.7)
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud 23th January 2007
Yn dod i rym 25th January 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef2.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.
Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Ionawr 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 20024.
Diwygio'r prif Reoliadau
Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 5.
2. Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15”, ar ôl “Cyfarwyddeb 2004/5/EC” mewnosoder “a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC5”.
4. Yn Atodlen 1 (sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwyd DMN dynodedig)—
(a) yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 1 (fitaminau), yn lle'r pennawd “FOLIC ACID” rhodder “FOLATE”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw mewnosoder ar y diwedd “— calcium-L-methylfolate”;
(b) yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 2 (mwynau), o dan y pennawd “IRON” mewnosoder ar y diwedd “— ferrous bisglycinate”.
5. Yn Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig) mewnosoder ar y dechrau—
“Categori 2: Mwynaumagnesium L-aspartate”.
To continue reading
Request your trial