Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1119 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 1119 (Cy.150)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

16 Ebrill 2003

17 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi( 1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 17 Ebrill 2003.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority"yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 3);

ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") yw -

mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, awdurdod iechyd porthladd i'r ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

benodedig i'r Comisiwn.

ystyr "cnau pistasio Iranaidd" ("Iranian pistachios") yw -

(a) cnau pistasio sy'n dod o fewn cod CN 0802 50 00; a(b) cnau pistasio wedi eu rhostio sy'n dod o fewn cod CN 2008 19 13 neu god 2008 19 93,

ac unrhyw gynhyrchion sy'n deillio o gnau pistasio neu gnau pistasio wedi eu rhostio sy'n tarddu, neu a anfonwyd, o Iran;

ystyr "Cyfarwyddeb 98/53/EC" ("Directive 98/53/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n pennu'r dulliau samplo a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd( 4) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/27/EC( 5);

mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac yn gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio ac sy'n tarddu neu wedi cael eu hanfon o Iran( 6) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC( 7) ), 2000/238/EC( 8) a 2002/1041/EC; ac

ystyr "Rhif y cod CN" ("CN code number") yw Rhif cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff Cyffredin y Dollau.( 9) )

(2) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y diffiniad o "cnau pistasio Iranaidd" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r ymadroddion cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

Gwaharddiad ar fewnforio

3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai bod yr amodau a bennir yn Erthygl 2.4 a 2.5 o Benderfyniad y Comisiwn wedi eu bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio, heblaw drwy bwynt mynediad a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn.

(3) Rhaid peidio â deall na pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw gnau pistasio Iranaidd sydd sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

(4) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Gorfodi

4. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(3) At...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT