Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau a Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2015/1403 (W139) (Cymru) |
Year | 2015 |
2015Rhif 1403 (Cy. 139)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau a Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015
22 Mehefin 2015
24 Mehefin 2015
1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 1 o Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau a Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010( 1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau a Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn-
ystyr "cae chwarae" ("playing field") yw'r cyfan o fan agored sy'n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;
ystyr "y cyfnod ymgynghori" ("the consultation period") yw'r cyfnod a bennir gan awdurdod lleol yn unol a rheoliad 5(2)(c) a (5);
ystyr "Deddf 2013" ("the 2013 Act") yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013( 2);
ystyr "gwaredu" ("dispose") yw rhoi unrhyw ystad neu fuddiant mewn tir, ac mae "gwarediad" ("disposal") i'w ddehongli yn unol a hynny;
ystyr "llain chwarae" ("playing pitch") yw man wedi ei amlinellu y mae ei arwynebedd, ynghyd ag unrhyw redegfa iddo-
(a) yn 0.2 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Wyddelig, bando, hyrli, polo, polo beiciau, athletau neu golff, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;(b) yn 0.1 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae bowls; neu(c) yn 0.04 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae pêl fasged, pêl rwyd neu dennis;ystyr "penderfyniad arfaethedig i waredu" ("proposed decision to dispose") yw pan fo awdurdod lleol yn ystyried gwneud penderfyniad i ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o'r fath, yn ystyried gwneud penderfyniad i waredu; ac
ystyr "penderfyniad i waredu" ("decision to dispose") yw pan fo awdurdod lleol( 3) yn penderfynu ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o'r fath, yn penderfynu gwaredu.
Cymhwyso
3. Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio a'r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10-
(a) mewn perthynas a phenderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae;(b) pan fo'r cae chwarae wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd blaenorol; ac(c) pan na fo unrhyw un o'r eithriadau yn rheoliad 4(1) yn gymwys.Eithriadau
4.-(1) Nid yw'r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys-
(a) pan fo'r penderfyniad arfaethedig i waredu yn ymwneud a rhoi buddiant yn y cae chwarae, neu unrhyw ran o'r cae chwarae, nad yw'n cael effaith andwyol ar ddefnydd y cyhoedd o'r cae chwarae fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden;(b) pan fo'r cae chwarae i'w gadw fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden at ddefnydd y cyhoedd, pa un a godir tal am y defnydd hwnnw ai peidio, ac mae'r gwarediad arfaethedig i'w wneud i-(i) awdurdod lleol; neu(ii) corff y mae ei nodau neu ei amcanion yn cynnwys hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon neu hamdden;(c) pan fo cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wedi ymgynghori ynglyn a'r penderfyniad arfaethedig i waredu'r cae chwarae o dan adran 48(2) o Ddeddf 2013;(d) pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ynghylch y penderfyniad arfaethedig i waredu'r cae chwarae o dan adran 72(1) o Ddeddf 2013; neu(e) pan fo'r penderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae yn yr arfaeth.(2) At ddibenion paragraff (1)(e), mae penderfyniad arfaethedig i waredu yn yr arfaeth-
(a) pan fo'r awdurdod lleol wedi cyhoeddi hysbysiad am warediad yn unol ag adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972( 4) cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a(b) pan fo'r awdurdod lleol yn ymrwymo i gytundeb i waredu, neu'n cwblhau'r gwarediad, o'r cae chwarae y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwnnw o fewn 12 mis ar ôl i'r hysbysiad hwnnw gael ei gyhoeddi gyntaf.Trefniadau hysbysu ac ymgynghori
5.-(1) Rhaid i awdurdod lleol, cyn gwneud penderfyniad i waredu cae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, gyhoeddi hysbysiad ("yr hysbysiad") am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad y mae paragraff (1) yn cyfeirio ato-
(a) datgan bod yr awdurdod lleol yn bwriadu gwaredu cae chwarae;(b) hysbysu'r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar fanylion y gwarediad arfaethedig, ac am ba gyfnod y bydd manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt; ac(c) hysbysu'r cyhoedd o'i hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol mewn perthynas a'r gwarediad arfaethedig, drwy ba fodd y mae'n rhaid iddo wneud hynny ac erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gael unrhyw sylwadau.(3)...
To continue reading
Request your trial