Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/781 (Cymru) |
Year | 2003 |
2003Rhif 781 (Cy.92)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
18 Mawrth 2003
1 Medi 2003
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Sefydliadau sydd wedi'u heithrio |
4. |
Datganiad o Ddiben |
RHAN II
PERSONAU COFRESTREDIG
5. |
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
6. |
Penodi rheolwr |
7. |
Ffitrwydd y rheolwr |
8. |
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
9. |
Hysbysu tramgwyddau |
RHAN III
RHEDEG CANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD
10. |
Iechyd a lles trigolion |
11. |
Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles |
12. |
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant |
13. |
Lleoliadau |
14. |
Cyfleusterau a gwasanaethau |
15. |
Staffio'r ganolfan breswyl i deuluoedd |
16. |
Ffitrwydd y gweithwyr |
17. |
Cyflogi staff |
18. |
Barn y staff ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd |
19. |
Cofnodion |
20. |
Cwynion |
RHAN IV
TIR AC ADEILADAU
21. |
Ffitrwydd tir ac adeiladau |
22. |
Rhagofalon tân |
RHAN V
RHEOLI
23. |
Adolygu ansawdd y gofal |
24. |
Y sefyllfa ariannol |
25. |
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig |
RHAN VI
AMRYWIOL
26. |
Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill |
27. |
Hysbysu absenoldeb |
28. |
Hysbysu newidiadau |
29. |
Penodi datodwyr etc. |
30. |
Marwolaeth person cofrestredig |
31. |
Tramgwyddau |
32. |
Cydymffurfio â'r rheoliadau |
33. |
Ffioedd |
34. |
Darpariaethau trosiannol |
ATODLENNI
1. |
Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben |
2. |
Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas acirc; phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio yno |
3. |
Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cofnodion achosion |
4. |
Cofnodion eraill mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7) (a) i (j), 25(1), 34(1), 35(1), a 118 (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol( 2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod lleoli" ("placing authority"), mewn perthynas â theulu, yw'r awdurdod lleol neu'r corff arall sy'n gyfrifol am drefnu lletya'r teulu mewn canolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig;
ystyr "cynllun lleoliad" ("placement plan") yw'r cynllun a baratoir yn unol â rheoliad 13;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 4;
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989( 3);
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y ganolfan breswyl i deuluoedd;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y ganolfan breswyl i deuluoedd;
mae i "rhiant" yr ystyr a roddir i "parent" gan adran 4(2) o Ddeddf 2000;
ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd -
(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (5) ar gyfer yr ardal y mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;ystyr "teulu" ("family") yw plentyn a rhiant y plentyn yn cael eu lletya neu i gael eu lletya gyda'i gilydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, a dehonglir yr ymadrodd "aelod o'r teulu" ("member of the family") yn unol â hynny;
ystyr "trigolyn" ("resident") yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd;
dehonglir "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 5;
ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd -
(a) yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 4),(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 5); neu(c) yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 heblaw yn unol â'r Ddeddf honno; amae i "ymholiad amddiffyn plant" ("child protection enquiry") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(3)(a).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio lle darperir fel arall, nid yw cyfeiriadau at blentyn yn cynnwys rhiant sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd sydd o dan 18 oed.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad -
(a) at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw.(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.
Sefydliadau sydd wedi'u heithrio
3. At ddibenion Deddf 2000, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn ganolfan breswyl i deuluoedd -
(a) os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol neu'n gartref gofal;(b) os yw'n hostel neu'n lloches rhag trais domestig; neu(c) mewn unrhyw achos arall, os darparu llety ynghyd â gwasanaethau neu gyfleusterau eraill i unigolion sydd yn oedolion yw prif ddiben y sefydliad, ac os mae'r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i brif ddiben y sefydliad.Datganiad o Ddiben
4. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio -
(a) gan unrhyw berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;(b) gan unrhyw un o'r trigolion;(c) gan unrhyw awdurdod lleol sy'n arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf 1989 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.(3) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r ganolfan breswyl i deuluoedd (yr "arweiniad trigolyn") sy'n cynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben, a rhaid iddo ddarparu copi ohono i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a phob rhiant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig -
(a) cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r trigolion o dan sylw, a'u diwygio os yw'n briodol; a(b) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod ar ôl unrhyw ddiwygiad o'r fath.(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.
(6) Ni fydd dim ym mharagraff (5) nac yn rheoliadau 14(1) nac 21(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy -
(a) unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu(b) yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.RHAN II
PERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
5. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person -
(a) yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu(b) yn gorff ac - (i) bod y corff wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "yr unigolyn cyfrifol" yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd; a(ii) bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).(3) Dyma'r gofynion -
(a) bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd; ac(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn.(i) mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2:(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999( 6) a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988( 7).(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif...
To continue reading
Request your trial