Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationWSI 2012/793 (Cymru)
Year2012

2012Rhif 793 (Cy.108)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

10 Mawrth 2012

13 Mawrth 2012

30 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2, 10, 11, 19, 20, 21, 25, 28, 29, 32, 42, 74, 82, 82B, 82F, 91( 1) a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990( 2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( 3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.-(1) Yn y Rheoliadau hyn-

mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i "electronic communication" yn adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000( 4); ac

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas a defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig-

(a) bydd yr ymadrodd "cyfeiriad" ("address") yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi ei chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person y gosodir y rhwymedigaeth arno;(b) bydd cyfeiriadau at ffurflenni, planiau, hysbysiadau a dogfennau eraill, neu at gopïau o'r dogfennau hynny, yn cynnwys cyfeiriadau at y dogfennau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(3) Bydd paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fydd person yn defnyddio cyfathrebiad electronig er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ffurflen, plan, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall.

(4) Rhaid cymryd y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ffurflen, plan, hysbysiad neu ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig-

(a) yn rhai y gall y derbyniwr gael gafael arnynt,(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys, ac(c) yn ddigon parhaol fel bod modd eu defnyddio i gyfeirio atynt yn nes ymlaen.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys" ("legible in all material respects") yw bod yr wybodaeth a geir yn y ffurflen, plan, hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i'r derbyniwr i'r un graddau o leiaf a phe bai wedi ei hanfon, neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu allan i'w oriau busnes, rhaid cymryd ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac at y diben hwn ac at ddibenion paragraff (2) o reoliad 8, ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gwyl y Banc neu wyliau cyhoeddus arall.

(7) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn, y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig, wedi ei gyflawni pan fo'r ddogfen honno yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae "yn ysgrifenedig" ("written") ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol a hynny.

Ceisiadau am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth

3.-(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth-

(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig, i awdurdod cynllunio lleol, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sy'n cael effaith sylweddol debyg);(b) cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; ac(c) dod gyda'r canlynol, boed hynny yn electronig neu fel arall-(i) y planiau, lluniadau a'r wybodaeth o'r math sy'n angenrheidiol i ddisgrifio'r gwaith sydd o dan sylw yn y cais;(ii) ac eithrio pan fo'r cais yn cael ei wneud drwy gyfathrebiad electronig neu fod yr awdurdod cynllunio lleol yn mynegi bod llai yn ofynnol, 3 chopi o'r ffurflen; a(iii) ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiad electronig neu fod yr awdurdod cynllunio lleol yn mynegi bod llai yn ofynnol, 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau neu wybodaeth sy'n dod gyda'r cais y cyfeirir atynt ym mharagraff (i).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau sydd yn ofynnol i'w darparu gan baragraff (1)(c)(i) gael eu llunio i raddfa a ddynodir, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol y mae'n rhaid cyflwyno'r cais iddo yn cael-

(a) cais sy'n cydymffurfio a gofynion paragraff (1);(b) y dystysgrif sy'n ofynnol gan reoliad 7;(c) mewn achos lle y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo, y datganiad cynllunio a mynediad;

rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth i'r ceisydd yn y termau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 (neu mewn termau sylweddol debyg iddynt).

(4) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn barnu, wedi iddo anfon y gydnabyddiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (3), fod y cais yn annilys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r ceisydd bod y cais yn annilys.

(5) Pan gafwyd cais dilys o dan baragraff (1) gan awdurdod cynllunio lleol, cyfnod o 8 wythnos yw'r amser a ganiateir i'r awdurdod roi hysbysiad o'i benderfyniad i'r ceisydd neu roi hysbysiad iddo o gyfeirio'r cais at Weinidogion Cymru, yn cychwyn ar y dyddiad y cyflwynwyd y cais a'r dystysgrif o dan reoliad 7 i'r awdurdod, neu, (ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru) gyfnod arall y cytunir arno, ar unrhyw adeg, yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r awdurdod.

(6) Rhaid i bob hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a phan fo awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth yn ddarostyngedig i amodau, neu eu gwrthod, rhaid i'r hysbysiad ddatgan y rhesymau dros y penderfyniad a rhaid iddo ddod gyda hysbysiad yn y termau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 (neu mewn termau sylweddol debyg iddynt).

(7) Caiff cais am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth neu gais am amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm wrth ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth a wnaed ar neu ar ôl 30 Ebrill 2012 a chyn 31 Mai 2012, gan unrhyw un heblaw awdurdod cynllunio lleol, gael ei wneud yn ysgrifenedig ar ffurflen a gynlluniwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a rhaid iddi ddod gyda dau gopi pellach o'r ffurflen, planiau a lluniadau.

Ceisiadau i amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm wrth ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth

4.-(1) Rhaid i gais i awdurdod cynllunio lleol i amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm wrth ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth a roddwyd mewn perthynas a'r adeilad hwnnw, gael ei wneud yn unol a rheoliad 3(1).

(2) Mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 3 yn cael effaith mewn perthynas a chais o dan y rheoliad hwn, fel y maent yn cael effaith mewn perthynas a chais o dan reoliad 3(1), ac eithrio'r cyfeiriad yn rheoliad 3(6) at hysbysiad yn y termau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, y rhodder yn ei le, gyfeiriad at hysbysiad yn y termau a nodir yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

Cais am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth o ran tir y Goron

5. Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn, yn eu cymhwysiad i wneud a phenderfynu ceisiadau am ganiatad adeilad rhestredig a chaniatad ardal gadwraeth o ran tir y Goron, yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol-

(a) yn rheoliad 3(3)(b), yn lle "y dystysgrif sy'n ofynnol gan reoliad 7" rhodder "y dystysgrif neu ddogfen arall sy'n ofynnol gan reoliad 7";(b) yn rheoliad 7-(i) ym mharagraff (1) ar ôl "oni bai bod" mewnosoder "y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraff (1A), neu", a(ii) ar ôl paragraff (1) mewnosoder-"(1A) Rhaid i gais am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth o ran tir y Goron, ddod gyda'r canlynol-(a) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o ran tir y Goron; a(b) pan fo cais yn cael ei wneud gan berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw."

Datganiadau dylunio a mynediad

6.-(1) Rhaid i unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatad adeilad rhestredig ddod gyda datganiad ("datganiad dylunio a mynediad") sy'n esbonio-

(a) yr egwyddorion a'r cysyniadau dylunio sydd wedi eu cymhwyso i'r gwaith; a(b) yn ddarostyngedig i baragraff (4), sut yr ymdriniwyd a materion sy'n ymwneud a mynediad i'r adeilad.

(2) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad, mewn perthynas a dyluniad-

(a) esbonio'r egwyddorion a'r cysyniadau dylunio sydd wedi eu cymhwyso i'r agweddau canlynol ar y gwaith-(i) ymddangosiad;(ii) cynaliadwyedd amgylcheddol;(iii) cynllun; a(iv) graddfa; a(b) esbonio sut y mae'r egwyddorion a'r cysyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cymryd y canlynol i ystyriaeth-(i) pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad;(ii) nodweddion ffisegol penodol yr adeilad sy'n cyfiawnhau ei fod wedi ei ddynodi'n adeilad rhestredig; a(iii) lleoliad yr adeilad.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad, mewn perthynas a mynediad, esbonio'r canlynol-

(a) y polisi neu'r dull a fabwysiadwyd mewn perthynas a mynediad, gan gynnwys-(i) pa ddulliau mynediad amgen a ystyriwyd; a(ii) sut y cymerwyd y polisïau mewn perthynas a mynediad yn y cynllun datblygu( 5) i ystyriaeth (b) sut y mae'r polisi neu'r dull a fabwysiadwyd mewn perthynas a mynediad yn cymryd y canlynol i ystyriaeth-(i) pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad;(ii) nodweddion ffisegol penodol yr adeilad sy'n cyfiawnhau ei fod wedi ei ddynodi'n adeilad rhestredig; a(iii) lleoliad yr adeilad;(c) sut yr aethpwyd i afael a materion penodol, a allai effeithio ar fynediad i'r adeilad; ac(ch) sut y cynhelir y nodweddion sy'n sicrhau mynediad i'r adeilad.

(4) Nid yw paragraffau (1)(b) a (3) yn gymwys mewn perthynas a chais am ganiatad adeilad rhestredig i wneud gwaith nad...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT