Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014

JurisdictionWales
CitationSI 2014/375
Year2014

2014Rhif 375 (Cy. 43)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014

20 Chwefror 2014

21 Chwefror 2014

14 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5 a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990( 1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 14 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn-

(a) ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992( 2); a(b) ystyr "Deddf 1990" ("the 1990 Act") yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.

Diwygio Rheoliadau 1992

2. Yn Rhan A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992, yng ngholofn 1 y tabl o dan gofnod 36 mewn perthynas a chynhyrchion petrolewm, ar ôl "(c) gas oils (including diesel fuels, home heating oils and gas oil blending streams)", mewnosoder -

"(d) heavy fuel oils".

Darpariaeth drosiannol

3.-(1) Mae Rheoliadau 1992 yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas ag-

(a) unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd neu y bernir iddo gael ei roi cyn y diwrnod perthnasol;(b) unrhyw gais am gydsyniad sylweddau peryglus a wnaed cyn y dyddiad perthnasol;(c) unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o ran cais o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b);(d) unrhyw apêl o dan adran 21 o Ddeddf 1990 y mae cais o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b) yn berthnasol iddi;(e) unrhyw achos mewn cysylltiad a throsedd o dan adran 23 o Ddeddf 1990 a gyflawnwyd cyn y dyddiad perthnasol;(f) unrhyw hysbysiad am dorri'r gyfraith ynghylch sylweddau peryglus a ddyroddwyd gan awdurdod sylweddau peryglus cyn y dyddiad perthnasol;(g) unrhyw achos a gychwynnwyd neu unrhyw beth a wnaed yng nghyswllt unrhyw fater a grybwyllir yn is-baragraffau 3(a) i 3(f) cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr "y dyddiad perthnasol" yw'r dyddiad y daw'r rheoliad hwn i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cyfrannu at weithredu, o ran Cymru, Erthygl 30 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy'n ymwneud a sylweddau peryglus (OJ Rhif L 197...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT