Rheoliadau Deddf Trwyddedu Swau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/992 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 992 (Cy.141)

SŴAU, CYMRU

Rheoliadau Deddf Trwyddedu Swau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003

2 Ebrill 2003

22 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi ei ddynodi( 1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2) ynghylch mesurau sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid gwylltion mewn swau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2 uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a dehongli

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Swau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2003.

(2) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr y "Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Trwyddedu Swau 1981( 3);

ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Swau 1981 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2002( 4) ).

Cymhwyso'r Ddeddf: Cymru

2. - (1) Mae adran 22A o'r Ddeddf (a fewnosodir gan Reoliadau 2002) yn peidio â bod yn effeithiol fel bod y diwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 i 26 o Reoliadau 2002 ac sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i Gymru.

(2) Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999( 5) at y Ddeddf i'w drin fel pe bai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn.

Trwyddedau Cyfredol

3. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob sw yng Nghymru y mae trwydded mewn grym ar ei gyfer o dan y Ddeddf ar 22 Ebrill 2003 heblaw swau sy'n cau cyn 1 Hydref 2003.

(2) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau, cyn 1 Hydref 2003, fod pob trwydded a roddir ganddo o dan y Ddeddf yn cynnwys y fath amodau sydd, yn nhyb yr awdurdod, yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau bod y mesurau cadwraeth y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith yn y sw, a gall newid y drwydded at y diben hwnnw.

(3) Mae adran 16(2), (3) a (4) i (6) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 16(2) a (6) at "subsection (1)" yn gyfeiriadau at y paragraff hwnnw.

(4) Mae adran 18(1)(b) ac (c), (2), (3), (5) a (7) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2).

(5) Wrth benderfynu ynghylch pa amodau i'w gosod ar drwydded o dan baragraff (2) rhaid i awdurdod ystyried unrhyw safonau a bennir i Gymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9 o'r Ddeddf.

(6) Ni chaiff newid trwydded o dan baragraff (2) ei drin fel newid sylweddol at ddibenion adran 16 o'r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol i swau heb drwyddedau

4. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sw yng Nghymru y mae'n ofynnol iddo, oherwydd y diwygiadau a wneir i'r Ddeddf gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn, gael ei drwyddedu o dan y Ddeddf ond nad oedd hi'n ofynnol iddo gael ei drwyddedu felly yn union cyn 22 Ebrill 2003.

(2) Er gwaethaf unrhyw ddiwygiad o'r fath, caiff person a oedd, yn union cyn 22 Ebrill 2003, yn rhedeg sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar unrhyw dir neu mewn unrhyw adeiladau barhau i redeg y sw hwnnw ar y tir neu yn yr adeiladau hynny heb drwydded o dan y Ddeddf -

(a) yn ystod y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a(b) os yn ystod y cyfnod hwnnw gwneir cais am drwydded, nes bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynglyn â'r cais hwnnw, neu fod y cais yn cael ei dynnu yn ôl.

(3) Nid yw adran 16C o'r Ddeddf yn gymwys i sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo tra caniateir i berson barhau i redeg y sw heb drwydded yn rhinwedd paragraff (2).

(4) Os caiff y drwydded ei rhoi, caiff ei rhoi am gyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddir y drwydded arno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003

ATODLEN 1

Rheoliad 2(1)

Diwygio adran 1 (trwyddedu swau gan awdurdodau lleol)

(Rheoliad 4 o Reoliadau 2002)

1.

(a) yn is-adran (2) hepgorir y geiriau o "; and this Act" hyd at ddiwedd yr is-adran; a(b) ar ôl is-adran (2) mewnosodir yr is-adrannau canlynol -

" (2A) This Act applies to any zoo to which members of the public have access, with or without charge for admission, on seven days or more in any period of twelve consecutive months.

(2B) This Act also applies in accordance with its terms to any zoo to which members of the public do not have such access if a licence is in force in respect of it or as otherwise provided (in particular, in sections 13 and 16C to 16G).

(2C) In this Act -

(a) a section of a zoo means - (i) a particular part of the zoo premises;(ii) animals of a particular description in the zoo; or(iii) animals of a particular description which are kept in a particular part of the zoo premises; and(b) references to the closure of a section of a zoo to the public mean - (i) the closure to the public of a particular part of the zoo premises;(ii) ceasing to exhibit animals of a particular description to the public; or(iii) ceasing to exhibit animals of a particular description to the public in a particular part of the zoo premises.".

Mewnosod adran newydd 1A

(Rheoliad 5 o Reoliadau 2002)

2. Ar ôl adran 1 (trwyddedu swau gan awdurdodau lleol) mewnosodir yr adran ganlynol -

"Conservation measures for zoos

1A. The following are conservation measures to be implemented in zoos in accordance with this Act -

(a) participating in at least one of the following - (i) research from which conservation benefits accrue to species of wild animals;(ii) training in relevant conservation skills;(iii) the exchange of information relating to the conservation of species of wild animals;(iv) where appropriate, breeding of wild animals in captivity; and(v) where appropriate, the repopulation of an area with, or the reintroduction into the wild of, wild animals;(b) promoting public education and awareness in relation to the conservation of biodiversity, in particular by providing information about the species of wild animals kept in the zoo and their natural habitats;(c) accommodating their animals under conditions which aim to satisfy the biological and conservation requirements of the species to which they belong, including - (i) providing each animal with an environment well-adapted to meet the physical, psychological and social needs of the species to which it belongs; and(ii) providing a high standard of animal husbandry with a developed programme of preventative and curative veterinary care and nutrition;(d) preventing the escape of animals and putting in place measures to be taken in the event of any escape or unauthorised release of animals;(e) preventing the intrusion of pests and vermin into the zoo premises; and(f) keeping up-to-date records of the zoo's collection, including records of - (i) the numbers of different animals;(ii) acquisitions, births, deaths, disposals and escapes of animals;(iii) the causes of any such deaths; and(iv) the health of the animals.".

Diwygio adran 2 (gwneud cais am drwydded)

(Rheoliad 6 o Reoliadau 2002)

3. Mewnosodir yr is-adran ganlynol ar ôl is-adran (2) -

" (2A) Any notice given to the authority under subsection (1) must also specify how the conservation measures referred to in section 1A are being or will be implemented at the zoo.".

Diwygio adran 4 (rhoi neu wrthod trwydded)

(Rheoliad 7 o Reoliadau 2002)

4.

(a) yn is-adran (1) hepgorir paragraff (b) ac ", or" sy'n dod yn syth o'i flaen;(b) ar ôl is-adran (1) mewnosodir yr is-adran ganlynol -

" (1A) Before granting or refusing to grant a licence for a zoo, the local authority shall also -

(a) consult the applicant about the conditions they propose would be attached to the licence, if one were granted, under section 5(2A) and (if applicable) section 5(3); and(b) make arrangements for an inspection to be carried out in accordance with section 9A (subject to subsection (2) of that section).";(c) ar ôl is-adran (2) mewnosodir yr is-adran ganlynol -

" (2A) The local authority shall also refuse to grant a licence for a zoo if they are not satisfied that the conservation measures referred to in section 1A will be implemented in a satisfactory manner at the zoo."; a

(ch) yn is-adran (3) ar ôl "if" mewnosodir "subsection (2A) does not apply but".

Diwygio adran 5 (cyfnodau ac amodau trwyddedau)

(Rheoliad 8 o Reoliadau 2002)

5.

(a) ar ôl is-adran (2) mewnosodir yr is-adran ganlynol -

" (2A) A licence under this Act shall be granted subject to conditions requiring the conservation measures referred to in section 1A to be implemented at the zoo.";

(b) yn is-adran (3) - (i) ar ôl yr enghraifft gyntaf o'r gair "such" mewnosodir "other", a(ii) hepgorir paragraffau (a) a (b);(c) yn is-adran (4) hepgorir "(if any)"; a(ch) yn lle is-adran (5) rhoddir yr is-adrannau canlynol -

" (5) The Secretary for State may, after consulting the authority, direct them to attach one or more conditions to a licence, and the authority shall give effect to such a direction.

(5A) But he may not direct the authority to attach a condition which is inconsistent with the implementation at the zoo of the conservation measures referred to in section 1A.".

Diwygio adran 6 (adnewyddu trwydded)

(Rheoliad 9 o Reoliadau 2002)

6.

(a) ar ôl is-adran (1) mewnosodir yr is-adran ganlynol -

" (1A) Before extending the period of an existing licence under subsection (1)(a) the authority shall -

(a) make arrangements for an inspection to be carried out in accordance with section 9A (subject to subsection (2) of that section); and(b) consider the report made to them pursuant to that inspection."; a(b) yn is-adran (2) hepgorir y geiriau o "and, if" hyd at ddiwedd yr is-adran.

Diwygio adran 7 (trosglwyddo, olynu ac ildio trwyddedau)

(Rheoliad 10 o Reoliadau 2002)

7. Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau o "which application" hyd at ddiwedd yr is-adran rhoddir "specified by the authority and notified by them to the transferor and transferee"

Diwygio adran 8 (rhestr yr Ysgrifennydd Gwladol)

(Rheoliad 11 o Reoliadau 2002)

8.

(a) ar ddiwedd is-adran (2) mewnosodir "and shall be...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT