Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Jurisdiction | Wales |
2020 Rhif 868 (Cy. 190)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Gwnaed 14th August 2020
Gosodwyd gerbon Senedd Cymru 14th August 2020
Yn dod I rym 15th August 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, dod i rym a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2.—(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—
“Aruba”
“Ffrainc”
“Yr Iseldiroedd”
“Malta”
“Monaco”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—
“Ynysoedd Turks a Caicos”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b)
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig
4.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—
“(m)
“(m) Twrnamaint Golff Agored Iwerddon Dubai Duty Free (Cylchdaith Golff Ewrop);
(n)
(n) Twrnamaint Golff Agored Gogledd Iwerddon (Cylchdaith Her Ewrop a gefnogir gan yr R&A).”
(3) Yn lle paragraff 8 rhodder—
“8. Rygbi’r Gynghrair—
(a) Gornestau Super League Betfred;
(b) Cwpan Her Rygbi’r...
To continue reading
Request your trial