Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

JurisdictionWales
CitationWSI 2021/454 (W144) (Cymru)

2021 Rhif 454 (Cy. 144)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Gwnaed 8th April 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8th April 2021

Yn dod i rym 9th April 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ebrill 2021.

2 Diwygiadau

RHAN 2

Diwygiadau

S-2 Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

S-3 Diwygiad i reoliad 3

Diwygiad i reoliad 3

3. Yn rheoliad 3(3)(a) (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) yn lle “paragraff 6” rhodder “paragraff 6A”.

S-4 Diwygiadau i reoliad 6B

Diwygiadau i reoliad 6B

4.—(1) Mae rheoliad 6B (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A),”.

(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

S-1A

“1A Nid yw’r rheoliad hwn na rheoliad 6C yn gymwys pan fo rheoliad 6K (profi’r gweithlu) yn gymwys.”

S-5 Diwygiad i reoliad 6D

Diwygiad i reoliad 6D

5. Yn rheoliad 6D(4)(b) (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion) yn lle “cyn diwedd y” rhodder “yn ddim cynharach na’r”.

S-6 Diwygiad i reoliad 6G

Diwygiad i reoliad 6G

6. Ar ôl rheoliad 6G(2) (goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwrnod y cyfnod ynysu) mewnosoder—

S-3

“3 Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).”

S-7 Rheoliad 6K newydd

Rheoliad 6K newydd

7. Ar ôl rheoliad 6J (codi tâl am brofion) mewnosoder—

S-6K

Profi’r gweithlu

6K.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”), a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.

(2) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2, diwrnod 5 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (6) mewn perthynas â phob categori o brawf.

(3) Pan na fo P yn cymryd prawf gweithlu fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall.

(4) Pan fo prawf gweithlu arall wedi ei gymryd yn lle—

(a)

(a) prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)

(b) prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 5 yn unol â’r rheoliad hwn;

(c)

(c) prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.

(5) Mae Atodlen 2D yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch profion gweithlu (gan gynnwys goblygiadau profi).

(6) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

(a) ystyr “prawf gweithlu arall” yw prawf gweithlu sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf gweithlu nas cynhaliwyd;

(b)

(b) ystyr “prawf gweithlu” yw prawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20063;

(c)

(c) ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2” yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(d)

(d) ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5” yw prawf gweithlu—

(i) sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2,

(ii) sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(iii) sy’n cael ei gymryd cyn diwedd y pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(e)

(e) ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8” yw prawf gweithlu—

(i) sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu sy’n cael ei gymryd ar gyfer diwrnod 5,

(ii) sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(iii) sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”

S-8 Diwygiad i reoliad 9

Diwygiad i reoliad 9

8.—(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (2)—

(a)

(a) yn is-baragraff (b) yn lle “2 i 16” rhodder “2 i 5, 6A i 16”;

(b)

(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

“(ba)

“(ba) yn ddarostyngedig i baragraff (3), ym mharagraff 6 o Atodlen 2;”

(c)

(c) yn is-baragraff (c) yn lle “yn rheoliad 12E(2)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.

(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

S-3

“3 Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson (“P”) a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn unol â pharagraffau (4) i (6).

S-4

4 Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(d)(i) (gyrrwr cerbydau nwyddau) y fangre y mae rhaid i’r person ynysu ynddi at ddibenion gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr yn rheoliad 10(2)) yw—

(a) yn y cerbyd nwyddau pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw,

(b) yn y cerbyd nwyddau pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio ar ei ben ei hun mewn cerbyd nwyddau gyda chompartment y tu ôl i sedd y gyrrwr y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer cysgu (“cab cysgu”), yn ddarostyngedig i baragraff (c)(ii),

(c) mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw—

(i) os yw P yn teithio mewn cerbyd nwyddau heb gab cysgu, neu

(ii) pe bai ynysu mewn cerbyd nwyddau yn torri Erthygl 8 o Reoliad (EC) Rhif 561/2006Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni deddfwriaeth gymdeithasol benodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ffyrdd4,

(d) yn y cerbyd nwyddau neu mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio gyda pherson arall mewn cerbyd nwyddau gyda chab cysgu.

S-5

5 Pan fo P yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw paragraff (4) ond yn gymwys pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(i) o Atodlen 2.

S-6

6 Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(ii) (deiliad trwydded Gymunedol) ac na fo’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â gofyniad ynysu pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.”

S-9 Diwygiadau i reoliad 10

Diwygiadau i reoliad 10

9.—(1) Mae rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl paragraff (4)(n) mewnosoder—

“(o)

“(o) os yw’n ynysu mewn cerbyd nwyddau yn rhinwedd rheoliad 9(4)—

(i) am resymau glanweithdra,

(ii) i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored,

(iii) pan fo’n ofynnol neu y caniateir gwneud hynny gan y paragraff hwnnw, i symud i le arall i ynysu,

(iv) i edrych ar y cerbyd neu ei lwyth neu i ymgymryd ag unrhyw dasg arall sy’n ofynnol er mwyn defnyddio’r cerbyd yn ddiogel a pharhau i’w ddefnyddio, gan gynnwys ail-lenwi â thanwydd, a

(v) am unrhyw reswm neu ddiben arall a bennir yn y paragraff hwn;

(p)

(p) i gymryd prawf gweithlu sy’n ofynnol gan reoliad 6K.”

S-10 Diwygiadau i reoliad 12E

Diwygiadau i reoliad 12E

10.—(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl paragraff (2)(d)(i) mewnosoder—

“(iaa)

“(iaa) paragraff 6;”.

(3) Ar ôl paragraff (2)(d), mewnosoder—

“(e)

“(e) yn berson—

(i) sy’n blentyn, neu a oedd yn blentyn, ar 1 Medi 2020,

(ii) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion cael addysg mewn ysgol fyrddio yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddi, a

(iii) nad yw’n dod i’r Deyrnas Unedig yng nghwmni unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros P, neu os yw P yn 18 oed, a fyddai wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath pe bai P yn blentyn.”

(4) Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

S-5

“5 Yn y rheoliad hwn—

(a) ystyr “ysgol fyrddio” yw ysgol neu goleg—

(i) sy’n darparu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu, yn ôl y digwydd, ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr, yn ei mangre neu ei fangre ei hun, neu

(ii) sy’n trefnu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr sydd i’w ddarparu yn rhywle arall (ac eithrio mewn cysylltiad â thaith breswyl i ffwrdd o’r ysgol);

(b) ystyr “ysgol” yw—

(i) ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig o fewn ystyr “community school”, “foundation school”, “voluntary school”, “community special school” a “foundation special school” yn adran 20 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19985,

(ii) ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 20026),

(iii) ysgol arbennig nas cynhelir (fel y diffinnir “non-maintained special school”) yn adran 337A o Ddeddf Addysg 19967), neu

(iv) uned cyfeirio disgyblion o fewn ystyr “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;

(c) ystyr “coleg” yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19928.”

(5) Ym mharagraff (3E), yn yr addasiad i reoliad 9, yn lle “rheoliad 12E(2)” rhodder “rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.

S-11 Diwygiadau i reoliad 14

Diwygiadau i reoliad 14

11.—(1) Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (1)—

(a)

(a) yn is-baragraff (h) hepgorer “neu”;

(b)

(b) yn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT