Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

JurisdictionWales

2021 Rhif 1063 (Cy. 250)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Gwnaed 19th September 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 20th September 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841(“Deddf 1984”).

Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o’r farn nad yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o Ddeddf 1984 sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall2sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

(2) Daw rheoliad 8 i rym am 4.00 a.m. ar 22 Medi 2021.

(3) Daw pob rheoliad arall i rym ar 21 Medi 2021.

2 Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

RHAN 2

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

S-2 Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20203wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

S-3 Diwygiadau i reoliad 2

Diwygiadau i reoliad 2

3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “darparwr prawf” (“test provider”) yw darparwr prawf cyhoeddus neu ddarparwr prawf preifat;”;

“ystyr “darparwr prawf cyhoeddus” (“public test provider”) yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20064, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20065, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19786, neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 19727;”;

“ystyr “darparwr prawf preifat” (“private test provider”) yw darparwr prawf ac eithrio darparwr cyhoeddus;”.

S-4 Diwygiadau i reoliad 6AB

Diwygiadau i reoliad 6AB

4.—(1) Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Hepgorer paragraff (2)(c).

(3) Ym mharagraffau (3), (5) a (6), yn lle “darparwr prawf cyhoeddus”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “darparwr prawf”.

S-5 Diwygiad i reoliad 6J

Diwygiad i reoliad 6J

5. Yn rheoliad 6J(1) (codi tâl am brofion), ar ôl “brofion diwrnod 8” mewnosoder “a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus”.

S-6 Diwygiadau i reoliad 17

Diwygiadau i reoliad 17

6.—(1) Mae rheoliad 17 (defnyddio a datgelu gwybodaeth) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (2)(a)(iii)—

(a)

(a) yn lle “ddarparwr prawf cyhoeddus”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ddarparwr prawf”;

(b)

(b) yn is-baragraff (bb), hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 6AB(2)(c))”.

(3) Ym mharagraff (3)(c), yn lle “darparwr prawf cyhoeddus” rhodder “darparwr prawf”.

S-7 Diwygiadau i Atodlen 1C

Diwygiadau i Atodlen 1C

7.—(1) Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 1—

(a)

(a) yn lle’r pennawd rhodder “Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol”;

(b)

(b) daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-baragraff (2), ac o’i flaen mae’r canlynol wedi ei fewnosod—

S-1

“1 Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, neu

(b) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZA.”;

(c)

(c) yn is-baragraff (2), fel y’i hailrifwyd gan baragraff (2)(b) o’r rheoliad hwn, yn lle “paragraff” rhodder “is-baragraff”.

(3) Ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

S-1ZA

Profion diwrnod 2: gofynion o ran darparwr prawf preifat

1ZA.—(1) At ddibenion paragraff 1(1)(b), mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)

(a) pan fo’n darparu profion diwrnod 2 mewn un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd (pa un a yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X ddarparu un neu ragor o elfennau’r gwasanaeth ar ei ran ai peidio);

(b)

(b) pan fo ymarferydd meddygol cofrestredig yn goruchwylio ac yn cymeradwyo arferion meddygol a gyflawnir gan y darparwr prawf preifat, ac yn gyfrifol am roi gwybod am faterion meddygol;

(c)

(c) pan fo ganddo system effeithiol o lywodraethu clinigol ar waith sy’n cynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol priodol mewn perthynas â chynnal profion diwrnod 2;

(d)

(d) pan fo gwyddonydd clinigol cofrestredig yn goruchwylio arferion clinigol a gyflawnir gan y darparwr prawf preifat, ac yn gyfrifol am roi gwybod am faterion clinigol;

(e)

(e) pan fo ganddo systemau ar waith i nodi unrhyw ddigwyddiadau andwyol neu faterion rheoli ansawdd mewn perthynas â phrofion diwrnod 2 a gallu rhoi gwybod i Weinidogion Cymru amdanynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

(f)

(f) os yw’r darparwr prawf preifat yn labordy sy’n cynnal gwerthusiadau profion diagnostig ar gyfer profi yn unol â’r Atodlen hon, pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat ar https://support-covid-19-testing.dhsc.gov.uk/InternationalTesting;

(g)

(g) pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi neu i gynnal dilyniannu genomaidd, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(h)

(h) pan fo’r person sy’n gyfrifol am gymryd y samplau yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer achrediad i safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025 mewn cysylltiad â chymryd samplau;

(i)

(i) pan fo’r labordy a ddefnyddir gan y darparwr prawf preifat i brosesu samplau yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025 mewn cysylltiad â gwerthuso’r dull sefydledig o ganfod moleciwlau a dilyniannu genomaidd ar samplau;

(j)

(j) pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac yn gweinyddu neu’n darparu’r prawf i P heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(k)

(k) pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i) am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu y diwrnod hwnnw, a

(ii) mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa) am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig;

(bb) a yw’r person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef yn berson nad yw, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben pan gyrhaeddodd P Gymru, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ai peidio;

(cc) a yw’r person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef yn deithiwr rheoliad 2A ai peidio;

(dd) am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);

(l)

(l) pan fo’n dilyniannu pob sampl gyda throthwy cylch o lai na 30 (sy’n cyfateb i 1,000 o gopïau genom firysol fesul mililitr);

(m)

(m) mewn cysylltiad â dilyniannu samplau, pan fo rhaid iddo sicrhau lled rhychwant genom cyfeirio o 50% o leiaf a rhychwant o 30 o weithiau o leiaf;

(n)

(n) pan fo, ar gais gan Weinidogion Cymru neu Gonsortiwm Genomeg COVID-19 y DU, yn peri bod samplau ar gael at ddiben dilyniannu deuol;

(o)

(o) pan fo’n cadw ac yn cludo samplau mewn modd sy’n galluogi dilyniannu genomau;

(p)

(p) pan fo ganddo broses ar waith i ddileu darlleniadau dynol o unrhyw ddata a gyflwynir mewn hysbysiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 20108;

(q)

(q) os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf preifat yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y bo’n berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i) paragraffau (b) i (e) ac (g) i (p) o’r is-baragraff hwn;

(ii) paragraff 2C(2) i (4).

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h) ac (i), mae person neu labordy (yn ôl y digwydd) yn bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer achrediad i safon pan fo’r person sy’n weithredwr y labordy yn cydymffurfio â gofynion paragraff 2B, fel pe bai cyfeiriad at brawf yn gyfeiriad at brawf diwrnod 2.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwyddonydd clinigol cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru fel gwyddonydd clinigol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 20019.”

(4) Ym mharagraff 2—

(a)

(a) yn lle’r pennawd rhodder “Profion diwrnod 8: gofynion cyffredinol”;

(b)

(b) daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-baragraff (2), ac o’i flaen mae’r canlynol wedi ei fewnosod—

S-1

“1 Mae prawf diwrnod 8 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, neu

(b) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 2ZA.”

(5) Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

S-2ZA

Profion diwrnod 8: gofynion o ran darparwr prawf preifat

2ZA.—(1) At ddibenion paragraff 1(1)(b), mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)

(a) pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at brawf diwrnod 2 yn gyfeiriad at brawf diwrnod 8;

(b)

(b) os yw’r darparwr prawf preifat yn labordy sy’n cynnal gwerthusiadau profion diagnostig ar gyfer profi yn unol â’r Atodlen hon, pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat ar...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT