Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

JurisdictionWales

2012Rhif 60 (Cy.14)

Y GEMAU OLYMPAIDD A'R GEMAU PARALYMPAIDD, CYMRU

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

10 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 19, 20(1), 22(8), 25, 26(1) a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006( 1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy( 2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol a'r gofynion a nodir yn adrannau 20(3) a 26(3) ac wedi rhoi sylw i'r materion y cyfeirir atynt yn adrannau 19(2) a 25(2) o'r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 20(2) a 26(2) o'r Ddeddf honno( 3).

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cychwyn, dirwyn i ben a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012.

(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.

(3) Mae eu heffaith yn peidio ar ddiwedd 14 Awst 2012.

(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cymhwyso i'r Goron

2.-(1) Mae'r darpariaethau canlynol yn rhwymo'r Goron-

(a) rheoliadau 5 i 11, a(b) rheoliadau 3, 4, 16 a 17 i'r graddau y maent yn ymwneud a gweithgaredd hysbysebu.

(2) Ond nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy'n gwneud y Goron yn atebol am dramgwydd.

Dehongli'n Gyffredinol

3. Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "adeilad" ("building") yw adeilad parhaol ond nid yw'n cynnwys caban ffôn;

ystyr "caban ffôn" ("telephone kiosk") yw unrhyw gaban, bwth, cwfl acwstig, cysgodfa neu adeiledd tebyg a godir neu a osodir er mwyn amgáu neu gynnal cyfarpar cyfathrebu electronig a hwnnw'n fan lle y mae gwasanaeth cyfathrebu electronig wedi ei ddarparu (neu lle y mae i'w ddarparu) gan weithredwr cod cyfathrebu electronig;

ystyr "cyfnod digwyddiad" ("event period") yw pob un o'r cyfnodau a ganlyn-

(a) y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 24 Gorffennaf 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 28 Gorffennaf 2012,(b) y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 30 Gorffennaf 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 4 Awst 2012, ac(c) y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 9 Awst 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 10 Awst 2012;

ystyr "daliedydd" ("receptacle") yw unrhyw beth sy'n cael ei ddefnyddio (p'un a yw wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu at ddefnydd o'r fath) fel cynhwysydd i unrhyw eitem neu i arddangos unrhyw eitem, gan gynnwys-

(a) unrhyw gerbyd, trelar neu ferfa, neu(b) unrhyw fasged, bag, blwch, llestr, stondin, stand, îsl, bwrdd, neu hambwrdd;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006;

mae "eitem" ("article") yn cynnwys peth byw;

nid yw "papur newydd neu gyfnodolyn" ("newspaper or periodical") yn cynnwys papur newydd neu gyfnodolyn sydd wedi ei fwriadu'n benodol i hysbysebu un neu fwy o'r canlynol o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad-

(a) nwyddau neu wasanaethau,(b) person sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau;

ystyr "parth digwyddiadau" ("event zone") yw parth Stadiwm y Mileniwm, sef yr ardal y mae llinell werdd ddotiog yn ffin allanol iddi, gan gynnwys y gofod awyr uwchben yr ardal honno, a ddangosir ar y map sydd wedi ei lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru, sy'n dwyn

enw'r parth digwyddiadau, enw'r Rheoliadau hyn, a'r dyddiad Medi 2011, ac y mae printiau ohono wedi eu hadneuo ac ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac yn swyddfeydd Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW, ac yn Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND;

ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992( 4); ac

mae "trwydded" ("licence") yn cynnwys unrhyw fath o gydsyniad, tystysgrif, caniatad neu awdurdod (drwy ba enw bynnag) a roddir gan dirfeddiannwr, awdurdod lleol neu berson arall yn unol ag unrhyw ddeddfiad, Siarter neu ddogfen arall.

Yr effaith ar ddeddfwriaeth arall etc.

4. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn-

(a) sy'n awdurdodi person i wneud unrhyw beth sydd wedi ei wahardd (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol) drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu reol o'r gyfraith, na(b) yn effeithio ar ofyniad mewn unrhyw ddeddfiad neu reol o'r gyfraith bod person yn dal trwydded cyn ymhel a gweithgaredd y mae'n ofynnol cael y drwydded honno'n ar ei gyfer (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol).

RHAN 2

Gweithgaredd Hysbysebu

Dehongli'r Rhan hon

5.-(1) Yn y Rhan hon-

mae "arddangos hysbyseb" ("displaying an advertisement") yn cynnwys (heb leihau effaith yr ymadrodd hwnnw'n gyffredinol)-

(a) taflunio, allyrru neu sgrinio hysbyseb neu ei rhoi ar ddangos,(b) cario neu ddal hysbyseb neu gyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb,(c) darparu bod-(i) hysbyseb yn cael ei harddangos ar anifail, neu(ii) cyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb yn cael ei gario neu ei ddal gan anifail,(ch) gwneud un neu fwy o'r canlynol fel rhan o ymgyrch marchnata rhagod-(i) cario neu ddal eiddo personol y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno,(ii) gwisgo gwisg hysbysebu,(iii) arddangos hysbyseb ar gorff unigolyn;

ystyr "corff di-elw" ("not-for-profit body") yw corff sydd, yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad-

(a) yn un y mae'n ofynnol iddo (ar ôl talu alldaliadau) ddefnyddio'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, a(b) wedi ei wahardd rhag dosbarthu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ymhlith ei aelodau unrhyw ran o'i asedau (ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus);

ystyr "deunydd hyrwyddo" ("promotional material") yw dogfen neu eitem a ddosberthir neu a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo;

ystyr "gweithgaredd hysbysebu" ("advertising activity") yw-

(a) arddangos hysbyseb, neu(b) dosbarthu neu ddarparu deunydd hyrwyddo;

ystyr "gwisg hysbysebu" ("advertising attire") yw-

(a) trwsiad sy'n hysbyseb, neu(b) dilledyn y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno;

ystyr "hysbyseb" ("advertisement") yw unrhyw air, llythyren, delwedd, marc, sain, golau, model, arwydd, hysbyslen, bwrdd, hysbysiad, sgrîn, cysgodlen, bleind, baner, dyfais, trwsiad neu ddarluniad, p'un a yw'n oleuedig ai peidio, sydd o ran ei natur yn hyrwyddo, yn hysbysebu, yn cyhoeddi neu'n cyfarwyddo ac yn cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn gwneud hynny;

ystyr "hysbysebwr" ("advertiser") yw person sy'n ymhel a gweithgaredd hysbysebu; ac

ystyr "ymgyrch marchnata rhagod" ("ambush marketing campaign") yw ymgyrch (p'un a yw'n un weithred neu'n gyfres o weithredoedd) sydd wedi ei bwriadu'n benodol i hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo un neu fwy o'r canlynol o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad-

(a) nwyddau neu wasanaethau,(b) person sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau.

(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson sy'n ymhel a gweithgaredd hysbysebu i'w drin fel cyfeiriad sy'n cynnwys person y mae rheoliad 6(2) yn gymwys iddo.

(3) Nid yw gweithgaredd hysbysebu sy'n cynnwys arddangos hysbyseb ar ddyfais gyfathrebu bersonol i'w drin fel gweithgaredd hysbysebu at ddibenion y Rhan hon onid yw'r hysbysebwr yn bwriadu bod yr hysbyseb yn cael ei harddangos, drwy gyfrwng y ddyfais, i'r cyhoedd yn gyffredinol (yn hytrach na'i harddangos i neb ond yr unigolyn sy'n defnyddio'r ddyfais).

(4) Ym mharagraff (3), ystyr "dyfais gyfathrebu bersonol" ("personal communication device") yw ffôn symudol neu ddyfais gyfathrebu ryngweithiol bersonol arall.

Rheoli gweithgaredd hysbysebu

6.-(1) Rhaid i berson beidio ag ymhel a gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(2) Mae person i'w drin fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw'n trefnu (ar unrhyw bryd ac mewn unrhyw le) i weithgaredd hysbysebu gael ei gynnal yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(3) Mae person i'w drin hefyd fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad-

(a) yn ymwneud a nwyddau, gwasanaethau, busnes neu gonsrn arall y mae ganddo fuddiant ynddo neu y mae'n gyfrifol amdano, neu(b) yn cael ei gynnal ar dir, mangre neu eiddo arall y mae'n berchen arno neu arni neu y mae'n ei feddiannu neu'n ei meddiannu neu y mae ganddo gyfrifoldeb dros ei reoli neu ei rheoli.

(4) Heb leihau effaith paragraff (3) yn gyffredinol-

(a) mae person i'w drin fel un sydd a buddiant mewn busnes neu gonsrn arall, neu gyfrifoldeb dros y naill neu'r llall, os yw'n swyddog i'r busnes neu'r consrn hwnnw,(b) mae person i'w drin fel un sydd a buddiant mewn nwyddau neu wasanaethau, neu gyfrifoldeb dros y naill neu'r llall, os yw'n swyddog i fusnes neu gonsrn arall sydd a buddiant yn y nwyddau neu'r gwasanaethau, neu sy'n gyfrifol am y nwyddau neu'r gwasanaethau hynny, ac(c) mae person i'w drin fel un sydd a chyfrifoldeb dros reoli tir, mangre neu eiddo arall os yw'n swyddog i fusnes neu gonsrn arall sy'n berchen ar y tir, y fangre neu'r eiddo arall, yn ei feddiannu neu'n ei meddiannu neu sydd a chyfrifoldeb dros ei reoli neu ei rheoli.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr "swyddog" ("an officer") yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg.

(6) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gweithgaredd hysbysebu p'un a yw'n cynnwys canlyniad neu barhad gweithgaredd a gyflawnwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Eithriad ar gyfer gwrthdystiadau, etc.

7.-(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i weithgaredd hysbysebu sydd wedi ei fwriadu-

(a) i ddangos cefnogaeth neu wrthwynebiad i ddaliadau neu weithredoedd unrhyw berson neu gorff o bersonau,(b) i roi cyhoeddusrwydd i gred, achos neu ymgyrch, neu(c) i gofnodi neu goffáu digwyddiad.

(2) Ond nid yw'r eithriad hwn yn gymwys i weithgaredd hysbysebu sy'n hyrwyddo neu'n hysbysebu-

(a) nwyddau neu wasanaethau, neu(b) person neu gorff (ac eithrio corff di-elw) sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau.

Eithriad ar gyfer unigolion sy'n gwisgo gwisg hysbysebu, yn arddangos...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT