Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2002/325 (Cymru) |
Year | 2002 |
2002Rhif 325 (Cy.38)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
12 Chwefror 2002
1 Ebrill 2002
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I -
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Ystyr "ysbyty annibynnol" |
4. |
Ystyr "clinig annibynnol" |
5. |
Datganiad o ddiben |
6. |
Arweiniad y cleifion |
7. |
Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y cleifion |
8. |
Polisïau a gweithdrefnau |
RHAN II -
PERSONAU COFRESTREDIG
9. |
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
10. |
Penodi rheolwr |
11. |
Ffitrwydd y rheolwr |
12. |
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
13. |
Hysbysu am dramgwyddau |
RHAN III -
RHEDEG SEFYDLIADAU GOFAL IECHYD
Pennod 1
Ansawdd y gwasanaeth a ddarperir
14. |
Ansawdd y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir |
15. |
Gofal a lles cleifion |
16. |
Adolygiad o ansawdd y driniaeth a gwasanaethau eraill |
17. |
Staffio |
18. |
Ffitrwydd y gweithwyr |
19. |
Canllawiau ar gyfer proffesiynolion gofal iechyd |
20. |
Cofnodion |
21. |
Barn y staff ynglyn â'r ffordd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg |
22. |
Cwynion |
23. |
Ymchwil |
Pennod 2
Safleoedd
24. |
Ffitrwydd y safleoedd |
Pennod 3
Rheoli
25. |
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig |
26. |
Sefyllfa ariannol |
Pennod 4
Hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol
27. |
Hysbysu am ddigwyddiadau |
28. |
Hysbysu am absenoldeb |
29. |
Hysbysu am newidiadau |
30. |
Penodi datodwyr etc |
31. |
Marwolaeth person cofrestredig |
RHAN IV -
GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I YSBYTAI ANNIBYNNOL
Pennod 1
Gwasanaethau patholeg, dadebru a thrin plant mewn ysbytai annibynnol
32. |
Cymhwyso rheoliadau 33 i 35 |
33. |
Gwasanaethau patholeg |
34. |
Dadebru |
35. |
Trin plant |
Pennod 2
Ysbytai annibynnol lle darperir gwasanaethau rhestredig penodol
36. |
Gweithdrefnau llawfeddygol |
37. |
Triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol |
38. |
Gwasanaethau obstetrig - staffio |
39. |
Gwasanaethau obstetrig - gofynion pellach |
40. |
Terfynu beichiogrwydd |
41. |
Defnyddio technegau neu dechnolegau penodol |
Pennod 3
Ysbytai iechyd meddwl
42. |
Cymhwyso rheoliadau 43 i 46 |
43. |
Diogelwch cleifion ac eraill |
44. |
Rheoli ymddygiad afreolaidd |
45. |
Ymwelwyr |
46. |
Cofnodion iechyd meddwl |
RHAN V -
GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GLINIGAU ANNIBYNNOL
47. |
Clinigau annibynnol |
RHAN VI -
AMRYWIOL
48. |
Cydymffurfio â rheoliadau |
49. |
Tramgwyddau |
YR ATODLENNI
1. |
Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben |
2. |
Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo |
3. |
Rhan I - |
Y cyfnod y mae'n rhaid cadw cofnodion meddygol ar ei gyfer |
Rhan II - |
Y cofnodion sydd i'w cadw ar gyfer archwiliadau |
4. |
Rhan I - |
Y manylion sydd i'w cofnodi ar gyfer cleifion sy'n cael gwasanaethau obstetrig |
Rhan II - |
Y manylion sydd i'w cofnodi ar gyfer plentyn sy'n cael ei eni mewn ysbyty annibynnol. |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(4), (7)(f) ac (8), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h), (j) a (k), 25(1), 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau sydd yn ei farn ef yn briodol( 2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â sefydliadau, fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1), yng Nghymru.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "arweiniad y cleifion" ("patients' guide") yw'r arweiniad sy'n cael ei lunio'n unol â rheoliad 6;
mae "breintiau ymarfer" ("practising privileges"), mewn perthynas ag ymarferydd meddygol, yn cyfeirio at roi hawl i berson nad yw'n cael ei gyflogi mewn ysbyty annibynnol i ymarfer yn yr ysbyty hwnnw;
ystyr "bydwraig" ("midwife") yw bydwraig gofrestredig( 3) sydd wedi hysbysu ei bwriad i ymarfer i'r awdurdod goruchwyliol lleol yn unol ag unrhyw reolau a wnaed o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1997( 4) );
ystyr "claf" ("patient"), mewn perthynas â sefydliad, yw person y mae triniaeth yn cael ei darparu iddo yn neu at ddibenion y sefydliad;
ystyr "cofrestr feddygol arbenigol" ("specialist medical register") yw'r gofrestr o arbenigwyr a gedwir ac a gyhoeddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol â'r Gorchymyn Cymwysterau Meddygol Arbenigol Ewropeaidd 1995( 5);
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforaethol;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), mewn perthynas â sefydliad, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y sefydliad;
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 5;
ystyr "Deddf y GIG" ("the NHS Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 6);
ystyr "deintydd" ("dentist") yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984( 7);
mae i "dyfais feddygol" ("medical device") yr un ystyr â "medical device" yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 1994( 8) );
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), mewn perthynas â sefydliad, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu reolwr cofrestredig y sefydliad;
ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("health care professional") yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999( 9) yn gymwys iddo, neu sy'n seicolegydd clinigol neu'n seicotherapydd plant a dylid dehongli "proffesiwn gofal iechyd" yn unol â hynny;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), mewn perthynas â sefydliad , yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y sefydliad ;
ystyr "sefydliad" ("establishment") yw ysbyty annibynnol, gan gynnwys ysbyty annibynnol lle darperir triniaeth neu wasanaeth nyrsio (neu'r ddau) ar gyfer personau sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983( 10) ), neu glinig annibynnol;
ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas â sefydliad -
(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal lle mae'r sefydliad wedi'i leoli, yw'r swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;mae "triniaeth" ("treatment") yn cynnwys gofal lliniarol, gwasanaethau nyrsio a gwasanaethau rhestredig, o fewn ystyr adran 2 o'r Ddeddf( 11).
dylid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 9;
ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol -
(a) sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr "general medical services" yn Rhan II o Ddeddf y GIG;(b) sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 12); neu(c) sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y GIG, ond nad ydynt yn cael eu darparu yn unol â'r Ddeddf honno;ystyr "ymarferydd meddygol" ("medical practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig( 13);
(2) Gall y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa sy'n cael ei rheoli ganddo fel y swyddfa briodol mewn perthynas â sefydliadau sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad -
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw, neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau a dylid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
Ystyr "ysbyty annibynnol"
3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae "gwasanaethau rhestredig", at ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, yn cynnwys triniaeth sy'n defnyddio unrhyw un o'r technegau neu'r technolegau canlynol -
(a) cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4, fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Safon Brydeinig EN 60825-1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser)( 14);(b) golau dwys, sef golau rhes lydan anghydlynol sy'n cael ei hidlo i gynhyrchu amrediad penodedig o donfeddi, a bod yr y pelydriad hidledig hwnnw yn cael ei gyflwyno i'r corff, gyda'r nod o achosi niwed thermol, mecanyddol neu gemegol i strwythurau megis ffoliglau gwallt a meflau croen tra'n arbed meinweoedd amgylchynol;(c) hemodialysis neu ddialysis peritoneol;(ch) endosgopi;(d) (therapi ocsigen hyperbarig, sef rhoi ocsigen pur drwy fasg i glaf mewn siambr seliedig sy'n cael ei gwasgeddu'n raddol ag aer cywasgedig, ac eithrio os defnydd pennaf y siambr yw - (i) yn unol â rheoliad 6(3)(b) o Reoliadau Plymio yn y Gwaith 1997( 15) neu reoliad 8 neu 12 o Reoliadau Gwaith mewn Aer Cywasgedig 1996( 16); neu(ii) fel arall ar gyfer trin gweithwyr mewn perthynas â'r gwaith y maent yn ei wneud; a(dd) technegau ffrwythloniin vitro, sef gwasanaethau triniaeth y gellir rhoi trwydded ar eu cyfer o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 1990( 17) ).(2) Rhaid i "wasanaethau rhestredig" beidio â chynnwys triniaeth drwy ddefnyddio'r technegau neu'r technolegau canlynol -
(a) triniaeth i leddfu ar boen yn y cyhyrau a'r cymalau drwy ddefnyddio lamp triniaeth gwres is-goch;(b) triniaeth sy'n defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B os yw triniaeth o'r fath yn cael ei chyflawni gan broffesiynolyn gofal iechyd neu o dan ei oruchwyliaeth;(c) defnyddio cyfarpar (a hwnnw heb fod...To continue reading
Request your trial