Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/2186 (Cymru)
Year2001

2001Rhif 2186 (Cy. 150 )

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001

12 Mehefin 2001

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(3) a (4) ac adran 11(1) a (3) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000( 1) ac adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996( 2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; ac

ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997( 3).

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Gwasanaethau personol agos eu natur ac amgylchiadau rhagnodedig

2. - (1) At ddibenion adran 2(3) o'r Ddeddf mae gwasanaeth a gyflwynir i'r person sy'n derbyn gofal yn bersonol agos ei natur os yw'n cynnwys -

(a) codi, golchi, tacluso, bwydo, gwisgo, bathio, defnyddio'r toiled, rhoi meddyginiaethau, neu weithgareddau o fath tebyg sy'n golygu cael cysylltiad corfforol â'r person sy'n derbyn gofal;(b) rhoi cymorth mewn cysylltiad â golchi, tacluso, bwydo, gwisgo, bathio, rhoi meddyginiaethau neu ddefnyddio'r toiled; neu(c) goruchwylio'r person wrth iddo wisgo amdano, bathio, neu ddefnyddio'r toiled.

(2) Os bydd gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal, dyma'r amgylchiadau lle gall y gwasanaeth gynnwys gwasanaeth personol agos ei natur -

(a) wrth i'r gwasanaeth hwnnw gael ei gyflwyno mae'r person sy'n derbyn gofal yn gofyn i'r person sy'n cyflwyno'r gwasanaeth ddarparu gwasanaeth personol agos ei natur; neu(b) mae'r person sy'n derbyn gofal mewn sefyllfa lle mae'n debyg o ddioddef anaf personol difrifol oni bai bod gwasanaeth personol agos ei natur yn cael ei ddarparu iddo ac(i) nid yw'r person sy'n derbyn gofal yn gallu cydsynio bod y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu, neu(ii) mae'r person sy'n darparu'r gwasanaeth yn credu'n rhesymol ei bod yn angenrheidiol darparu'r gwasanaeth hwnnw am fod anaf personol difrifol ar fin cael ei wneud yn ôl pob tebyg.

Personau na ellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt

3. Mae person sy'n dod o fewn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT