Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationSI 2012/1285
Year2012

2012Rhif 1285 (Cy.163)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012

14 Mai 2012

16 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 4(3), 7A(2), 7B(3) a 19(2) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002( 1), a chan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993( 2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso, effaith a dehongli

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012 a deuant i rym-

(a) at ddibenion siopau mawr, nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco, ar 3 Rhagfyr 2012; a(b) at bob diben arall, ar 6 Ebrill 2015.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i werthwyr tybaco arbenigol( 3).

(4) At ddibenion y rheoliad hwn-

ystyr "arwynebedd perthnasol y llawr" ("relevant floor area"), mewn perthynas a siop yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad a gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau; ac

ystyr "siop fawr" ("large shop") yw siop lle mae arwynebedd perthnasol y llawr y tu hwnt i 280 o fetrau sgwar.

Dehongli

2.-(1) Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "arwynebedd yr uned storio" ("area of storage unit") yw cyfanswm arwynebedd yr uned storio lle y mae'r cynhyrchion tybaco ac unrhyw gynnyrch eraill yn weladwy;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002;

mae "mangre" ("premises") yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llestr, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol;

ystyr "pecyn" ("package") yw unrhyw flwch, garton neu gynhwysydd arall;

ystyr "pecyn gwreiddiol" ("original package") yw'r pecyn y cyflenwyd y sigarôts neu'r tybaco rholio a llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu'r mewnforiwr at ddibenion manwerthu;

ystyr "siop" ("shop") yw unrhyw fangre lle y cynhelir masnach neu fusnes sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n bennaf, gwerthu nwyddau;

ystyr "swmpwerthwr tybaco" ("bulk tobacconist") yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigarôts neu dybaco rholio a llaw, a fesurir yn unol a pharagraff (2), yn cydymffurfio a'r amodau canlynol-

(a) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigarôts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigarôts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigarôts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a(b) bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio a llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;

ystyr "uned storio" ("storage unit") yw gantri, cabinet neu uned, hambwrdd, silff neu unrhyw gynnyrch arall lle y cedwir cynnyrch tybaco tra'n aros am ei werthu.

(2) Bydd y gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o "swmpwerthwr tybaco" yn cael eu mesur yn ôl y pris gwerthu-

(a) yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu(b) yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i'r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.

Ystyr "lle"

3. At ddibenion adran 7A o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco), ystyr "lle" ("place") yw mangre yng Nghymru lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu cynnig i'w gwerthu wrth gynnal busnes, ac eithrio mangre-

(a) sydd ond yn hygyrch i bersonau sy'n ymhel a busnes sy'n rhan o'r fasnach dybaco neu sy'n cael eu cyflogi gan...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT