Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012

JurisdictionWales
CitationWSI 2012/1287 (Cymru)
Year2012

2012Rhif 1287 (Cy.164)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012

14 Mai 2012

16 Mai 2012

6 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(A1), 7B(3) a 19(2) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002( 1), a chan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993( 2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.

(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Hysbysebu mewn mangreoedd gwerthwyr tybaco arbenigol

2.-(1) Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 2 o'r Ddeddf (gwaharddiad ar hysbysebu tybaco) os yw'r hysbyseb dybaco-

(a) mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol( 3);(b) yn un nad yw ar gyfer sigarôts neu dybaco rholio a llaw; ac(c) yn cydymffurfio a'r gofynion a bennir yn y paragraffau a ganlyn.

(2) Ni chaniateir i hysbyseb dybaco fod yn weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.

(3) Rhaid i bob hysbyseb gynnwys adran ("yr adran wybodaeth") ("the information area") lle yr arddangosir ynddi-

(a) rhybudd iechyd fel a bennir ym mharagraff (4); a(b) yr wybodaeth iechyd a ganlyn-

"Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru

0800 169 0 169

Smokers' Helpline Wales".

(4) Rhaid i'r rhybudd iechyd ddatgan-

(a) mewn achos lle mae hanner neu ragor o arwynebedd hysbyseb ac eithrio'r adran wybodaeth ("yr adran hysbysebu") ("the advertisement area") yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebu cynhyrchion tybaco y bwriedir iddynt gael eu hysmygu-

""Mae ysmygu yn lladd / Smoking kills" neu

"Mae ysmygu yn achosi niwed difrifol i chi ac eraill o'ch cwmpas / Smoking seriously harms you and others around you""; a

(b) ym mhob achos arall-

"Gall cynhyrchion tybaco achosi niwed difrifol i'ch iechyd a gallwch fynd yn gaeth iddynt / Tobacco products can seriously damage your health and are addictive".

(5) Rhaid i'r adran wybodaeth o dan baragraff (3)-

(a) mewn achos lle y mae cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yn fwy na 75 o gentimetrau sgwar, fod o leiaf 22.5 o gentimetrau sgwar; a(b) mewn unrhyw achos arall, beidio a bod yn llai na 30% o gyfanswm arwynebedd yr hysbyseb,

ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yw'r adran hysbysebu a'r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT