Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/3053 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 3053 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003

26 Tachwedd 2003

28 Tachwedd 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac a freiniwyd bellach ynddo( 2), ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod y gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn -

mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority"yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "cyfanswm y solidau llaeth" ("total milk solids") yw holl gyfansoddion llaeth heblaw dwr, gan gynnwys braster llaeth, a'r cyfansoddion heblaw braster llaeth sy'n bresennol yn eu cyfrannau naturiol;

ystyr "Cyfarwyddeb 79/1067/EEC" ("Directive 79/1067/EEC") yw Cyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 1979/1067/EEC( 4)sy'n gosod dulliau'r Gymuned o ddadansoddi ar gyfer profi llaeth a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd wedi ei ddadhydradu yn rhannol neu'n llwyr;

ystyr "Cyfarwyddeb 87/524/EEC" yw Cyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 1987/524/EEC( 5) yn gosod dulliau'r Gymuned o samplo ar gyfer dadansoddiad cemegol ar gyfer monitro cynhyrchion llaeth wedi'u preserfio;

ystyr "cynnyrch dynodedig" ("designated product") yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadadau sy'n berthnasol i'r Atodlen honno);

ystyr "Cytundeb AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar Ardal Economaidd Ewropeaidd( 6) , a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol( 7) ) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "defnyddiwr olaf" ("ultimate consumer") yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw -

(a) er mwyn ailwerthu;(b) ar gyfer sefydliad arlwyo;(c) ar gyfer busnes gweithgynhyrchu;

ystyr "disgrifiad neilltuedig" ("reserved description") o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu unrhyw ddisgrifiad amgen a ganiateir gan Atodlen 2;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig neu ddangos i'w werthu neu feddu i'w werthu, a dehonglir ymadroddion cytras yn unol â hynny;

ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractiol i Gytundeb AEE;

ystyr "llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr" ("totally dehydrated milk") yw'r cynnyrch solet, a'i gynnwys dwr heb fod yn fwy na 5% o'r cynnyrch gorffenedig yn ôl pwysau, a geir drwy dynnu dwr o laeth, o laeth rhannol sgim neu o laeth llwyr sgim, o hufen neu o gymysgedd o'r cynhyrchion hyn;

ystyr "llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol" ("partly dehydrated milk") yw'r cynnyrch hylif, boed wedi'i felysu ai peidio, a geir yn uniongyrchol drwy dynnu peth dwr o laeth, llaeth llwyr sgim neu laeth rhannol sgim, neu o gymysgwch o'r cynhyrchion hyn, ac mae'n cynnwys cynhyrchion yr ychwanegwyd hufen neu laeth sydd wedi'i ddadhydradu'n llwyr atynt ar yr amod nad yw'r llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr yn fwy, yn y cynnyrch gorffenedig, na 25% o gyfanswm y solidau llaeth;

mae "paratoi" ("preparation") yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin a rhaid dehongli unrhyw ffurf ar "paratoi" yn ynol â hynny;

ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996( 8);

ystyr "sefydliad arlwyo" ("catering establishment") yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y darperir bwyd i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;

Ystod y Rheoliadau

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig

4. Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd ac arno label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd, neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw darddair ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai -

(a) bod y bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;(b) bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu yn glir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw; neu(c) bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd yn gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig

5. Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai iddo gael ei farcio a'i labelu â'r manylion canlynol -

(a) disgrifiad neilltuedig y cynnyrch;(b) ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraffau 1(ch) ac (e) a 2(ch) o Atodlen 1, canran y braster llaeth, wedi'i mynegi yn ôl y pwysau mewn perthynas â'r cynnyrch gorffenedig;(c) ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, canran yr echdyniad llaeth sych nad yw'n cynnwys unrhyw fraster o gwbl;(ch) yn achos cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, argymhellion ynghylch y dull gwanhau neu ailgyfansoddi'r cynnyrch a...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT