Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2014

JurisdictionEngland & Wales
CitationWSI 2014/3266 (Cymru)

2014Rhif 3266 (Cy. 333)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2014

10 Rhagfyr 2014

30 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas a Chymru( 1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13(2), (7), (8)(e) a (10) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006( 2) a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 13(9) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru, fel yr ystyrient yn briodol, wedi ymgynghori a'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud a hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno( 3), mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2014.

(2) Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2015.

Diddymu adran 1(1) o Ddeddf Bridio Cwn 1973

2. Yn adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (trwyddedu sefydliadau bridio cwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder-

"(1A) Subsection (1) does not apply in relation to Wales."

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "amodau trwydded" ("licence conditions") yw'r amodau hynny a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau ychwanegol a osodir ynghlwm wrth drwydded gan yr awdurdod lleol;

ystyr "arolygydd" ("inspector") yw unrhyw berson sydd ag awdurdod ysgrifenedig gan awdurdod lleol i weithredu mewn materion sy'n codi o dan, neu mewn cysylltiad a'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn;

ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol lle y mae'r ceisydd am y drwydded o dan reoliad 7 yn cynnal y gweithgaredd o fridio cwn yn ei ardal;

ystyr "ci bach" ("puppy") yw ci sy'n iau na 6 mis oed;

ystyr "ci llawndwf" ("adult dog") yw ci nad yw'n iau na 6 mis oed;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;

ystyr "gast fridio" ("breeding bitch") yw gast heb ei hysbaddu, nad yw'n iau na 6 mis oed;

ystyr "gweinydd llawnamser" ("full time attendant") yw person sy'n gweithio am o leiaf 37 awr yr wythnos, naill ai am dal neu'n ddi-dal, ym mangre deiliad y drwydded;

ystyr "gweinydd rhan-amser" ("part time attendant") yw person sy'n gweithio rhwng 18.5 a 37 awr bob wythnos, naill ai am dal neu'n ddi-dal, ym mangre deiliad y drwydded;

ystyr "rhaglen gymdeithasoli" ("socialisation programme") yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy'n manylu ar sut y gwneir i gwn bach ymgynefino a chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig a chwarae, a sut i'w paratoi ar gyfer eu gwahanu oddi wrth y fam;

ystyr "rhaglen gymdeithasoli ddrafft" ("draft socialisation programme") yw dogfen sy'n manylu ar sut y gwneir i gwn bach ymgynefino a chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig a chwarae, a sut i'w paratoi ar gyfer eu gwahanu oddi wrth y fam, a gyflwynir gan y ceisydd i'r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr "rhaglen wella a chyfoethogi" ("enhancement and enrichment programme") yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy'n manylu ar y modd y rhoddir cyfleoedd i gwn fynegi patrymau ymddygiad naturiol;

ystyr "rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft" ("draft enhancement and enrichment programme") yw dogfen sy'n manylu ar y modd y rhoddir cyfleoedd i gwn fynegi patrymau ymddygiad naturiol, a gyflwynwyd gan y ceisydd i'r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr "trwydded" ("licence") yw trwydded a roddir o dan reolad 8.

RHAN 2

Gofyniad i ddal trwydded

Trwyddedu bridwyr cwn

4. Mae bridio cwn yn weithgaredd penodedig, at ddibenion adran 13(1) o'r Ddeddf.

Bridio cwn: dehongli

5.-(1) Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cwn at ddibenion adran 13(1) o'r Ddeddf os yw'n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac-

(a) yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gwn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;(b) yn hysbysebu ar werth o'r fangre honno gi neu gwn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gwn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;(c) yn cyflenwi o'r fangre honno gi neu gwn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gwn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;(d) yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cwn bach o'r fangre honno.

(2) At ddibenion paragraff (1) rhagdybir bod unrhyw gi a ganfyddir mewn mangre yn cael ei gadw gan feddiannydd y fangre honno nes profir i'r gwrthwyneb.

(3) At ddibenion paragraffau (1)(a) i (c) nid yw'n berthnasol a yw'r torllwythi o gwn bach wedi eu bridio o'r geist bridio y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), ai peidio.

(4) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.

Bridio cwn: eithrio

6.-(1) Nid yw person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cwn at ddibenion adran 13(1) o'r Ddeddf os yw'r cwn a grybwyllwyd yn rheoliad 5 yn cael eu bridio-

(a) i'w defnyddio mewn gweithdrefnau a reoleiddir, a(b) mewn lle a bennir mewn trwydded adran 2C yn rhinwedd adran 2B(2)(b) o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

(2) Ym mharagraff (1) mae i "gweithdrefn a reoleiddir" a "trwydded adran 2C" yr ystyr a roddir i "regulated procedure" a "section 2C licence" gan adran 30 o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

RHAN 3

Trwyddedau

Cais am drwydded

7.-(1) Er mwyn gwneud cais am drwydded o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i geisydd gyflwyno -

(a) cais ar ffurf ac mewn modd a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol;(b) rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;(c) rhaglen gymdeithasoli ddrafft;(d) manylion am nifer y cwn llawndwf a chwn bach y rhagwelir a fydd yn bresennol yn y fangre ar unrhyw adeg; ac(e) y dogfennau ategol hynny sy'n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod.

(2) Rhaid i'r ceisydd dalu unrhyw ffi briodol yn unol a rheoliad 12.

Rhoi neu adnewyddu trwyddedau

8.-(1) Wrth gael cais sy'n cydymffurfio a rheoliad 7, rhaid i awdurdod lleol archwilio mangre'r ceisydd, ac os bydd wedi ei fodloni-

(a) bod amodau'r drwydded naill ai wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni;(b) gyda'r rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;(c) gyda'r rhaglen gymdeithasoli ddrafft; a(d) gydag unrhyw faterion eraill y mae'r awdurdod lleol yn eu hystyried yn berthnasol;

caiff roi trwydded i'r ceisydd.

(2) Ynghlwm wrth bob trwydded a roddir, rhaid i'r awdurdod lleol roi-

(a) yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;(b) amod sy'n pennu'r nifer uchaf o gwn llawndwf a chwn bach sydd i'w cadw o dan delerau'r drwydded; ac(c) amod sy'n pennu cymhareb nifer y staff i nifer y cwn llawndwf a fydd yn sicrhau, fel isafswm staffio-(i) 1 gweinydd llawnamser am bob 20 ci llawndwf a gedwir; neu(ii) 1 gweinydd rhan-amser am bob 10 ci llawndwf a gedwir.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff yr awdurdod lleol hefyd atodi amodau pellach i drwydded fel y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol.

(4) Caiff yr awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod o hyd at 1...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT