Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2000/1786 (Cymru) |
Year | 2000 |
2000Rhif 1786 (Cy. 123 )
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000
29 Mehefin 2000
1 Gorffennaf 2000
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I
Rhagarweiniol
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Diwygio Rheoliadau 1982 a darpariaethau trosiannol |
RHAN II
Rhoi bathodynnau, eu parhad a'u diddymu
4. |
Disgrifiadau o bersonau anabl |
5. |
Bathodynnau sefydliad |
6. |
Ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi |
7. |
Bathodynnau yn lle rhai a gollwyd ayb. |
8. |
Seiliau dros wrthod rhoi bathodyn |
9. |
Dychwelyd bathodyn i'r awdurdod rhoi |
10. |
Apelau |
RHAN III
Ffurf Bathodynnau a'u Harddangos
11. |
Ffurf bathodynnau |
12. |
Y modd y mae bathodyn i gael ei arddangos |
13. |
Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd yn cael ei yrru |
14. |
Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd wedi ei barcio |
15. |
Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd yn cael ei yrru |
16. |
Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd wedi ei barcio. |
YR ATODLEN
Rhan I |
Ffurf bathodyn unigolyn |
Rhan II |
Ffurf bathodyn sefydliad |
Rhan III |
Manylebau bathodyn |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 ( 1) a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol ( 2) a phob pw er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori â Chyngor y Tribwnlysoedd yn unol ag adran 21(7E) o'r Ddeddf honno, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN I
RHAGARWEINIOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod rhoi" ("issuing authority"), mewn perthynas â bathodyn person anabl, yw'r awdurdod lleol a roddodd y bathodyn;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr "bathodyn person anabl" ("disabled person's badge"), yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, yw bathodyn ar y ffurf a ragnodir gan reoliad 11, ac a roddir gan awdurdod lleol er mwyn ei arddangos ar gerbyd modur a yrrir gan berson anabl neu i gario person anabl, ac mae'n cynnwys bathodyn yn lle un a gollwyd ayb. a roddir yn unol â rheoliad 7;
ystyr "bathodyn sefydliad" ("institutional badge") yw bathodyn person anabl a roddir i sefydliad;
ystyr "bathodyn unigolyn" ("individual's badge") yw bathodyn person anabl a roddir i berson anabl unigol;
ystyr "consesiwn person anabl" ("disabled person's concession") yw'r ystyr a roddir gan adran 117(3) o Ddeddf 1984;
ystyr "deiliad" ("holder"), mewn perthynas â bathodyn person anabl, yw'r unigolyn neu'r sefydliad y rhoddwyd y bathodyn person anabl iddo;
ystyr "Deddf 1970" ("the 1970 Act") yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970;
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 ( 3);
ystyr "person anabl" ("disabled person") yw person dros ddwy flwydd oed sydd yn cyfateb ag o leiaf un o'r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 4(2);
ystyr "Rheoliadau 1982" ("the1982 Regulations") yw'r ystyr a roddir gan reoliad 3(1) isod; ac
ystyr "sefydliad" ("institution") yw sefydliad sy'n ymwneud â gofalu am bersonau anabl y gellir rhoi bathodyn person anabl iddo yn unol ag adran 21(4) o Ddeddf 1970.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 yn gyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan y ddarpariaeth honno, gan gynnwys gorchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud o dan y Ddeddf honno.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "collfarn berthnasol" ("relevant conviction") yw
(a) unrhyw gollfarn yn erbyn - (i) deiliad bathodyn person anabl; neu(ii) unrhyw berson arall a ddefnyddiodd fathodyn o'r fath gyda chydsyniad y deiliad;o dramgwydd a bennir ym mharagraff (4); neu
(b) unrhyw gollfarn yn erbyn person heblaw deiliad bathodyn person anabl am dramgwydd o dan adran 117(1) o Ddeddf 1984 pan arddangoswyd bathodyn ar y cerbyd gyda chydsyniad y deiliad ar unrhyw adeg tra oedd y dramgwydd yn cael ei chyflawni.(4) Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (3)(a) uchod yw -
(a) unrhyw dramgwydd o dan adrannau 5, 8, 11 neu 16(1) o Ddeddf 1984 i'r graddau y mae'n ymwneud â thorri neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn wedi'i wneud o dan adrannau 1, 6, 9 neu 14 o'r Ddeddf honno - (i) sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar aros gan gerbydau ar unrhyw ffordd neu ran o ffordd; neu(ii) sy'n ymwneud ag unrhyw faterion a grybwyllwyd ym mharagraff 7 neu 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno; neu(b) unrhyw dramgwydd o dan adrannau 35A(1) a (2), 47(1), 53(5), 53(6) neu 117(1) o'r Deddf honno.(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.
(6) At ddibenion rheoliadau 12 i 16 bydd diffiniad "bathodyn person anabl" ym mharagraff (1) uchod yn cynnwys bathodyn a roddwyd o dan reoliadau sy'n effeithiol yn Lloegr neu'r Alban o dan adran 21 o Ddeddf 1970.
Diddymu Rheoliadau 1982 a darpariaethau trosiannol
3. - (1) Diddymir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 1982 ( 4) (a elwir yn y Rheoliadau hyn "Rheoliadau 1982"???).
(2) Heb ragfarn i adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 ( 5)
(a) bydd unrhyw gais i awdurdod lleol, o dan Reoliadau 1982 neu unrhyw beth arall wedi'i wneud cyn i'r Rheoliadau hyn ddod yn effeithiol gan awdurdod lleol yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny yn effeithiol fel petai wedi ei wneud neu wedi ei gyflawni o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hyn a gellir ei barhau yn yr un modd;(b) bydd unrhyw fathodyn a roddwyd gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan Reoliadau 1982 yn effeithiol fel petai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn a bydd yn parhau mewn grym(i) nes y digwydd un o'r pethau a bennir yn rheoliad 9(1) neu y rhoddir hysbysiad yn unol â rheoliad9(2);neu(ii) nes rhoi bathodyn yn lle un arall yn unol â rheoliad 7.(3) Bydd unrhyw orchymyn wedi'i wneud o dan Ddeddf 1984 sy'n cyfeirio at fathodyn person anabl, mewn perthynas ag unrhyw amserau ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn effeithiol fel petai'r cyfeiriad yn cynnwys cyfeiriad at fathodyn a roddwyd, neu yn effeithiol fel petai wedi ei roi, yn unol â'r Rheoliadau hyn.
RHAN II
RHOI BATHODYNNAU, EU PARHAD, A'U DIDDYMU
Disgrifiadau o bersonau anabl
4. - (1) Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y gall awdurdod lleol roi bathodyn person anabl iddo yw person dros ddwy flwydd oed sydd yn cyfateb ag un neu fwy o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y disgrifiadau yw person sydd -
(a) yn derbyn y cyfradd uwch o gydran symudedd y lwfans byw i'r anabl yn unol ag adran 73 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 ( 6);(b) yn defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n derbyn grant yn unol ag adran 5(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ( 7) neu adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban)...To continue reading
Request your trial