Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2013/1468 |
Year | 2013 |
2013 Rhif 1468 (Cy. 139)
Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru
Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013
Gwnaed 11th June 2013
Yn dod i rym 23th June 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(5) a 262(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20091yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Yn unol ag adran 262(10) o’r Ddeddf honno, cafodd drafft o’r offeryn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2013.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Yr amodau cwblhau Cymreig amgen
Yr amodau cwblhau Cymreig amgen yw’r amodau a bennir yn rheoliad 3 neu 4.
Dyma’r amodau—
bod person (“X”) yn gweithio fel person hunangyflogedig mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig; a
bod X yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.
Dyma’r amodau—
bod person (“Y”) wedi ymrwymo i gytundeb prentisiaeth mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig;
bod Y wedi dechrau ar gwrs hyfforddi ar gyfer y cymhwyster cymwyseddau a nodir yn y fframwaith hwnnw;
bod Y yn gweithio o dan y cytundeb prentisiaeth drwy gydol cyfnod cyntaf y cwrs;
bod Y wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i ddileu swydd cyn cwblhau’r cwrs;
bod Y wedi cwblhau’r cwrs cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad diswyddiad o’r fath;
bod Y yn gweithio neu yn mynychu canolfan hyfforddiant galwedigaethol gydnabyddedig, mewn cysylltiad â’r fframwaith hwnnw drwy gydol ail gyfnod y cwrs; ac
bod Y yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.
Ym mharagraff (1)—
mae’r cyfeiriad at gyfnod cyntaf y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y dechreuodd y cwrs hyfforddi y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ac sy’n dod i ben ar y dyddiad diswyddo;
mae’r cyfeiriad at ail gyfnod y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad diswyddo ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y cwblhawyd y cwrs hyfforddi.
Jef Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan na fo person...
To continue reading
Request your trial