Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2010/1361 (Cymru)
Year2010

2010Rhif 1361 (Cy.116)

Y CYFRIFIAD, CYMRU

Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010

24 Ebrill 2010

28 Ebrill 2010

16 Mehefin 2010

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori a'r Bwrdd Ystadegau yn unol ag adran 3(1A) o Ddeddf y Cyfrifiad 1920, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 3(1) o'r Ddeddf honno( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy:

Enw, cymhwyso a chychwyn

1.-(1)Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010.

(2)Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru a deuant i rym ar 16 Mehefin 2010.

Diddymu

2.Mae Rheoliadau'r Cyfrifiad 2000( 2) a Rheoliadau'r Cyfrifiad (Diwygio) 2000( 3) wedi'u diddymu.

Dehongli

3.-(1)Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "amlen ffurflen unigol" ("individual return envelope") yw amlen y caniateir selio holiadur I2 neu I2W ynddi ar ôl ei llenwi;

ystyr "amlen wedi'i thalu ymlaen llaw" ("reply-paid envelope") yw amlen sydd wedi'i chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i'r anfonwr dalu i'w hanfon;

ystyr "ardal cydgysylltydd" ("co-ordinator area") yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b);

ystyr "yr Awdurdod" ("the Authority") yw'r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

ystyr "cydgysylltydd cyfrifiad" ("census co-ordinator") yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b);

ystyr "y cyfrifiad" ("the census") yw'r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

ystyr "Deddf 1920" ("the 1920 Act") yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

ystyr "Deddf 2007" ("the 2007 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007( 4);

ystyr "dosbarth cyfrifo" ("enumeration district") yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr "etholwr" ("elector") yw person sy'n ethol llenwi ffurflen unigol yn unol a rheoliad 5(4);

ystyr "y gofrestr cyfeiriadau" ("the address register") yw'r gofrestr, a baratoir gan yr Awdurdod, sy'n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae'n ymwybodol ohonynt;

ystyr "Gorchymyn y Cyfrifiad" ("the Census Order") yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009( 5);

mae i "gwybodaeth bersonol" yr ystyr a roddir i "personal information" gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

ystyr "nodau adnabod holiadur" ("questionnaire identification marks") yw cod bar sy'n unigryw i bob holiadur penodol a rhif cyfeirnod cyfatebol y mae'r cod bar yn ei gynrychioli;

ystyr "pecyn aelwyd" ("household pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(5);

ystyr "pecyn sefydliad cymunedol" ("communal establishment pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(6);

ystyr "pecyn unigol rheolaidd" ("regular individual pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(3);

ystyr "pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw" ("reply-paid individual pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(4);

ystyr "penodai" ("appointee") yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

ystyr "person rhagnodedig" ("prescribed person") yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen neu unrhyw berson sy'n llenwi ffurflen ar ran person o'r fath yn unol a Gorchymyn y Cyfrifiad;

ystyr "sefydliad cymunedol" ("communal establishment") yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr "swyddog cyfrifiad" ("census officer") yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c); ac

ystyr "y system olrhain holiaduron" ("the questionnaire tracking system") yw unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 5(7).

(2)Mae i dermau y mae eu ffurfiau Saesneg wedi'u diffinio yng Ngorchymyn y Cyfrifiad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

(3)Yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hyn-

(a) y gair Cymraeg sy'n cyfateb i "household" yw "aelwyd"; a(b) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "householder" yw "deiliad aelwyd".

(4)Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron-

(a) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "household" yw "cartref" ac "aelodau o'r cartref" (yn ôl fel y digwydd); a(b) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "householder" yw "deiliad cartref".

(5)Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad, holiadur neu wybodaeth arall yn dod i law'r Awdurdod yn cyfeirio at yr hysbysiad, yr holiadur neu'r wybodaeth yn dod i law swyddog cyfrifiad yn bersonol, neu'n dod i law'r Awdurdod neu unrhyw benodai drwy'r post neu'n electronig.

(6)Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at holiadur lle y mae'n cael ei ddilyn yn union gan lythyren adnabod yn gyfeiriad at yr holiadur sy'n cael ei adnabod a'r llythyren honno ac y cyfeirir ato yn y tabl yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi yn unrhyw rai o Atodlenni 2 i 4 neu holiadur i'r un perwyl.

(7)Ni fydd person rhagnodedig yn torri'r Rheoliadau hyn dim ond am ei fod wedi dychwelyd fersiwn Saesneg holiadur gan ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth y mae'r holiadur yn hwnnw'n gofyn amdani a fersiwn Cymraeg yr holiadur hwnnw gan ddarparu gweddill yr wybodaeth honno.

Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau

4.-(1)At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i'r Awdurdod-

(a) rhannu Cymru'n ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr ardal i bob ardal gyfrifiad;(b) rhannu pob ardal gyfrifiad yn ardaloedd cydgysylltwyr a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd; ac(c) rhannu pob ardal cydgysylltydd yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad y mae'n credu bod eu hangen er mwyn cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol a Deddf 1920 a'r Rheoliadau hyn.

(2)Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae'n credu bod eu hangen i gynnal y cyfrifiad.

(3)Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir iddynt o dan Ddeddf 1920 a'r Rheoliadau hyn a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir yn unol a'r Rheoliadau hyn.

Holiaduron

5.-(1)Dim ond pan fydd holiadur sydd wedi'i lenwi yn dod i law'r Awdurdod y bydd dyletswydd person rhagnodedig i lenwi ffurflen, sydd wedi'i nodi yng Ngorchymyn y Cyfrifiad, wedi'i chyflawni.

(2)Yr holiadur sydd i'w lenwi gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 1 yw'r holiadur ac iddo'r teitl a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) (fersiwn Saesneg) neu golofn (3) (fersiwn Cymraeg) o'r tabl hwnnw ac sydd wedi'i nodi o dan y teitl hwnnw yn Atodlenni 2 i 4.

(3)Rhaid i bob person rhagnodedig gydymffurfio a'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr holiadur sydd i'w lenwi ganddo gan ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur ac y mae'n ofynnol iddo ei darparu o dan Orchymyn y Cyfrifiad.

(4)Caiff person sy'n bodloni'r amodau sydd wedi'u rhagnodi yn erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad ac sydd, drwy roi hysbysiad sy'n dod i law'r Awdurdod, yn ethol llenwi ffurflen unigol, lenwi'r ffurflen honno ar holiadur I2 neu holiadur I2W.

(5)Rhaid i bob etholwr sy'n llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gydymffurfio a'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gan ddarparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur hwnnw.

(6)Rhaid i bob holiadur fod a'r nodau adnabod holiadur wedi'u hargraffu arno ac yn achos pob un o holiaduron H2, H2W, I2, ac I2W rhaid hefyd iddynt fod a chod mynediad rhyngrwyd wedi'i argraffu arno sy'n unigryw i bob holiadur penodol ac a ddefnyddir os bydd y person rhagnodedig yn llenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur yn electronig.

(7)Caiff yr Awdurdod ddarparu system electronig i gadw cofnod o'r canlynol-

(a) nodau adnabod holiadur pob holiadur;(b) cod mynediad rhyngrwyd pob holiadur H2, H2W, I2, ac I2W;(c) yr aelwyd neu'r sefydliad cymunedol y mae pob holiadur wedi'i anfon neu wedi'i ddosbarthu iddynt yn unol a'r Rheoliadau hyn;(ch) amgylchiadau dosbarthu pob pecyn unigol rheolaidd, pob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw, pob pecyn aelwyd a phob pecyn sefydliad cymunedol a ddosbarthwyd gan swyddog cyfrifiad;(d) y dyddiad y daeth pob holiadur a ddaeth i law'r Awdurdod i law a thrwy ba fodd y daeth i law;(dd) y dyddiad y cafodd unrhyw gofnod ei wneud yn unol a rheoliad 10(6) neu 13(7) a'r person rhagnodedig y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef; ac(e) unrhyw wybodaeth arall y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i gynnal y cyfrifiad.

Paratoi pecynnau

6.-(1)Rhaid i'r Awdurdod baratoi unrhyw becynnau unigol rheolaidd, pecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw, pecynnau aelwyd a phecynnau sefydliad cymunedol yn unol a'r rheoliad hwn y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

(2)Rhaid i gynnwys pob pecyn a baratoir yn unol a'r rheoliad hwn gael ei gynnwys mewn amlen o dan sêl ("amlen ddosbarthu"), ("delivery envelope") y gall unrhyw gyfeiriad sydd wedi'i...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT