Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2014/122 (W12) (Cymru) |
Year | 2014 |
2014Rhif 122 (Cy. 12)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014
22 Ionawr 2014
24 Ionawr 2014
14 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992( 1), a pharagraffau 1(1) a 2(4)(e) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy( 2).
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
Diwygio
Diwygio Rheoliadau
2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993( 3) yn unol a rheoliad 3.
3. Yn Atodlen 1 (materion i'w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) ym mharagraff 8A-
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder-"(a) the reasons for the reduction and its amount;";(b) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder-"(i) informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013( 4) or contained in the authority's scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013( 5), as the case may be;".RHAN 3
Arbed
Dehongli
4. Yn y rhan hon o'r Rheoliadau-
ystyr "cynllun 2013" ("2013 scheme") yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol a Rheoliadau 2012 neu sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol a pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
ystyr "Rheoliadau 1993" ("2013 Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993;
ystyr "Rheoliadau 2012" ("2012 Regulations") yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012( 6).
Darpariaeth Arbed
5. Nid yw'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1993 gan reoliad 3 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol a darpariaethau un neu ragor o gynlluniau 2013.
Lesley Griffiths Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth , un o Weinidogion Cymru |
|
22 Ionawr 2014 |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993...
To continue reading
Request your trial