Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2006/1293 (Cymru) |
Year | 2006 |
2006Rhif 1293 (Cy.127)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006
10 Mai 2006
12 Mai 2006
TREFN Y RHEOLIADAU
PART 1
Cyflwyniad
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Cymeradwyaethau, etc.
PART 2
Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid
4. Deunydd Categori 1
5. Deunydd Categori 2
6. Deunydd Categori 3
7. Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd
8. Casglu, cludo a storio
PART 3
Cyfyngiadau ar fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar eu defnyddio
9. Cyfyngiadau ar roi gwastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion eraill yn fwyd
10. Ailgylchu mewnrywogaethol
11. Mynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill
12. Tir pori
PART 4
Mangreoedd a gymeradwywyd ac awdurdodau cymwys
13. Yr awdurdod cymwys
14. Cymeradwyo mangreoedd
15. Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
16. Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoni
17. Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd
18. Samplu mewn gweithfeydd prosesu
19. Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
20. Samplau a anfonwyd i labordai
21. Labordai
PART 5
Rhoi ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion wedi'u prosesu
22. Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd bwyd anifeiliaid
23. Rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gwn a chynhyrchion technegol
24. Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol
PART 6
Rhanddirymiadau
25. Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y Cyngor
26. Rhanddirymiadau'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid
27. Canolfannau casglu
28. Claddu anifeiliaid anwes
29. Ardaloedd pellennig
30. Claddu yn achos brigiad clefyd
31. Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna
PART 7
Cofnodion
32. Cofnodion
33. Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid
34. Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid
35. Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangre
36. Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
37. Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
38. Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd
39. Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddillion traul
PART 8
Gweinyddu a gorfodi
40. Rhoi cymeradwyaethau, etc.
41. Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc
42. Cyflwyno sylwadau i berson a benodwyd
43. Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo
44. Glanhau a diheintio
45. Cydymffurfio â hysbysiadau
46. Pwerau mynediad
47. Rhwystro
48. Cosbau
49. Gorfodi
50. Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegol
51. Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatin
52. Mesurau trosiannol: llaeth
53. Mesurau trosiannol a dyddiadau dod i ben
54. Diddymu a dirymu
ATODLEN 1
Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
ATODLEN 2
Hylif yn deillio o anifeiliaid sy'n cnoi cil
ATODLEN 3
Dulliau profi
ATODLEN 4
Mesurau Trosiannol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi 1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 2 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol-
RHAN 1
Cyflwyniad
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 12 Mai 2006.
Dehongli
2.-
(1) Yn y Rheoliadau hyn-
ystyr "arolygydd" (inspector) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr "awdurdod lleol" (local authority) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" (National Assembly) ym Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Rheoliad y Gymuned" (the Community Regulation) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta 3 fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy-
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta 4;(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol 5;(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd 6;(ch) Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3 7;(d) Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol 8;(dd) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd 9;(e) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a 2 ac a fwriedir at ddibenion techchnegol 10;(f) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw 11.(ff) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran dulliau o waredu neu o ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsnewid bio-nwy a phrosesu brasderau wedi'u rendro 12;(g) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid 13;(2) Y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a geir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno yw'r deunydd Categori 1, y deunydd Categori 2 a'r deunydd Categori 3, ac mae i ymadroddion eraill a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
Cymeradwyaethau, etc.
3.Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, gyfarwyddyd hysbysiad neu gydnabyddiaeth a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i
(a) sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a(b) diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.RHAN 2
Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Deunydd Categori 1
4.-
(1) Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 1 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 4(2) neu Erthygl 4(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.
(3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys o ran deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(e) o Reoliad y Gymuned (gwastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu o'r tu allan i'r Gymuned).
Deunydd Categori 2
5.-
(1) Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 2 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 5(2), Erthygl 5(3) neu Erthygl 5(4) (ac eithrio'r ddarpariaeth yn Erthygl 5(4) sy'n ymwneud ag allforio) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 5(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.
(3) At ddibenion Erthygl 5(2)(e) o Reoliad y Gymuned caniateir rhoi ar dir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn yr is-baragraff hwnnw ar yr amod nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod unrhyw gyfyngiadau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sgil-gynhyrchion hynny.
Deunydd Categori 3
6.Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 3 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 6(2) neu Erthygl 6(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd
7.Pan gymysgir sgil-gynhyrchion mamalaidd a sgil-gynhyrchion anfamalaidd, rhaid ystyried y cymysgedd yn sgil-gynhyrchion mamalaidd.
Casglu, cludo a storio
8.-
(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac os na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynhyrchion uchaf eu risg sy'n cael eu cludo.
(3) Yn unol ag Erthygl 7(6) o'r Rheoliad hwnnw, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.
(4) Yn unol â pharagraff 1 o Bennod X o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, caniateir i ddogfen fasnachol sy'n cynnwys yr wybodaeth ym Mhennod III o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, ni waeth beth fyddo'i fformat, fynd gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gludir o fewn y Deyrnas Unedig.
RHAN 3
Cyfyngiadau ar fynediad at...
To continue reading
Request your trial