Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2001/2197 (Cymru) |
Year | 2001 |
2001Rhif 2197 (Cy.157)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001
12 Mehefin 2001
1 Gorffennaf 2001
TREFN Y RHEOLIADAU
1. |
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli |
2. |
Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig |
3. |
Llygru dyfroedd a reolir |
4. |
Cynnwys hysbysiadau adfer |
5. |
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer |
6. |
Iawndal am hawliau mynediad etc |
7. |
Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer |
8. |
Apelau i lys ynadon |
9. |
Apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
10. |
Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol |
11. |
Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl |
12. |
Addasu hysbysiad adfer |
13. |
Apelau i'r Uchel Lys |
14. |
Atal hysbysiad adfer |
15. |
Cofrestrau |
ATODLENNI
1. |
Safleoedd arbennig |
2. |
Iawndal am hawliau mynediad etc |
3. |
Cofrestrau |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78C(8) i (10), 78E(6), 78G(5) a (6), 78L(4) a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990( 1) a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Cynulliad yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig
2. - (1) Rhagnodir tir halogedig o'r disgrifiadau canlynol at ddibenion adran 78C(8) yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig -
(a) tir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo;(b) tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu odano;(c) tir y cynhaliwyd unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg - (i) puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu(ii) gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;(ch) tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad os nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;(d) tir o fewn safle niwclear;(dd) tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran - (i) yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn;(ii) y Cyngor Amddiffyn;(iii) pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn; neu(iv) awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad;sef tir sy'n cael ei defnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
(e) tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu - (i) arfau cemegol;(ii) unrhyw gyfrwng neu docsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974 (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol)( 2); neu(iii) unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),ar unrhyw adeg;
(f) tir sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991 (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear)( 3); ac (i) tir - (i) sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (f) uchod; a(ii) sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.(2) At ddibenion paragraff (1)(b) uchod, mae "tarau asid gwastraff" yn darau -
(a) sy'n cynnwys asid sylffwrig;(b) a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac(c) sydd neu a oedd yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.(3) Ym mharagraff (1)(ch) uchod, mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol)( 4) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli yn ganolog neu yn lleol).
(4) Ym mharagraff (1)(d) uchod, ystyr "safle niwclear" yw -
(a) unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu(b) unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben, ar ôl diddymu neu ildio trwydded safle niwclear ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono;ac mae i "trwydded safle niwclear" , "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965( 5).
(5) At ddibenion paragraff (1)(dd) uchod, dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae'n rhaid i dir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl neu gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu gael ei drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.
(6) Ym mharagraff (1)(dd) uchod -
ystyr "pencadlys rhyngwladol" a "corff amddiffyn" yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 1964( 6);
mae i "awdurdod lluoedd arfog" a "llu ar ymweliad" yr un ystyr â "service authority" a "visiting force" yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952( 7).
(7) Ym mharagraff (1)(e) uchod, mae i "arf cemegol" yr un ystyr â "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996( 8) ) gan anwybyddu is-adran (2) o'r adran honno.
Llygru dyfroedd a reolir
3. At ddibenion rheoliad 2(1)(a), mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dir -
(a) pan fydd y tir( 9) yn effeithio ar ddyfroedd a reolir sy'n cael eu defnyddio, neu y bwriedir eu defnyddio, i gyflenwi dŵ r i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan III o Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991 (y cyflenwad d&wcirc r)( 10) );(b) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 (dosbarthu ansawdd dyfroedd)( 11); neu(c) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac - (i) pan fydd unrhyw un o'r sylweddau y mae llygru'r dyfroedd yn cael ei achosi ganddynt neu'n debygol o gael ei achosi ganddynt yn dod o fewn unrhyw un o'r teuluoedd neu'r grwpiau o sylweddau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a(ii) pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiadau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.Cynnwys hysbysiadau adfer
4. - (1) Rhaid i hysbysiad adfer ddweud (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3)) -
(a) enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y "tir halogedig o dan sylw"), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;(c) dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig;(ch) a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol trwy - (i) fod wedi achosi neu'n fwriadol wedi caniatáu i'r sylweddau, neu unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno, neu odano;(ii) fod yn berchennog y tir halogedig o dan sylw; neu(iii) fod yn feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;(d) manylion y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;(dd) y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;(e) rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;(f) pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig o dan sylw - (i) mai felly y mae hi;(ii) enw a chyfeiriad pob un person o'r fath; a(iii) y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;(ff) pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w gwneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6) wedi'u cynhwyso;(g) pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddweud pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;(ng) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad - (i) perchennog y tir halogedig o dan sylw; a(ii) unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r...To continue reading
Request your trial