Rheoliadau (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/543 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 543 (Cy.77)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

5 Mawrth 2003

17 Mawrth 2003

TREFN Y RHEOLIADAU

1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.

Dehongli

3.

Torri terfynau amser

4.

Corff priodol

5.

Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu

6.

Yr ysgolion lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu

7.

Hyd cyfnod ymsefydlu

8.

Cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu

9.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau

10.

Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu

11.

Goruchwyliaeth a hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymsefydlu

12.

Cyfrifoldeb am gyfnod ymsefydlu a wasanaethir gan athro neu athrawes mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd

13.

Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

14.

Cwblhau cyfnod ymsefydlu

15.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad corff priodol neu'r Cyngor

16.

Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

17.

Apelau

18.

Swyddogaethau eraill y corff priodol

19.

Taliadau

20.

Cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENNI

Atodlen 1:

Achosion pan gellir cyflogi person fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol ag yntau heb gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

Atodlen 2:

Y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad y corff priodol.

1.

Dehongli

2.

Yr amser ar gyfer a'r dull o apelio

3.

Yr hysbysiad apêl

4.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ôl

5.

Cydnabod a hysbysu am yr apêl

6.

Cais am ddeunydd pellach

7.

Ateb gan y corff priodol

8.

Cynnwys yr ateb

9.

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r ateb yn ei ôl

10.

Cydnabod a hysbysu am yr ateb

11.

Pw er i benderfynu'r apêl heb wrandawiad

12.

Gwrandawiad apêl

13.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad

14.

Y camau i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl derbyn hysbysiad am y gwrandawiad

15.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad

16.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad

17.

Penderfyniad y Cyngor

18.

Afreoleidd-dra

19.

Dogfennau

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Reholiadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 17 Mawrth 2003.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -

ystyr "athro neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw person a gyflogir mewn ysgol yn unol â Rhan III o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999;

ystyr "athro neu athrawes gyflenwi" ("supply teacher") yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o oruchwylio neu ddysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i'w dysgu;

mae i "athro neu athrawes gymwys" yr un ystyr ag sydd i "qualified teacher" yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988( 3);

ystyr "athro neu athrawes raddedig" ("graduate teacher") yw person a gyflogir mewn ysgol yn unol â Rhan II o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999( 4));

ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;

mae "blwyddyn ysgol" ("school year") yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg chweched dosbarth;

ystyr "coleg chweched dosbarth" ("sixth form college") yw sefydliad addysg bellach sy'n ymwneud yn bennaf â darparu addysg lawn-amser sy'n addas at ofynion personau nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed;

mae i "corff llywodraethu" mewn perthynas â choleg chweched dosbarth yr un ystyr ag sydd i "governing body" yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 5);

ystyr "corff priodol" ("appropriate body") yw corff priodol o dan reoliad 4;

mae "cyflogwr" ("employer") yn cynnwys awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy'n cymryd person ymlaen (neu'n gwneud trefniadau i'w gymryd ymlaen) er mwyn darparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir "cyflogi" ("employed"), "cyflogaeth" ("employment") ac unrhyw ymadroddion sy'n ymwneud â therfyn cyflogaeth yn unol â hynny;

mae i "cyfnod allweddol" yr un ystyr ag sydd i "key stage"yn adran 355(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "cyfnod ymsefydlu" ("induction period") yw cyfnod ymsefydlu sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn;

ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996( 6);

ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 7);

ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod heblaw am ddydd Sadwrn, ddydd Sul neu ddiwrnod sy'n

yl y banc o fewn ystyr "bank holiday" yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971( 8));

ystyr "diwrnod ysgol" ("school day") mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fo sesiwn ysgol yn yr ysgol honno;

mae "pennaeth" ("head teacher") yn cynnwys pennaeth coleg chweched dosbarth;

ystyr "pwnc craidd" ("core subject") yw pwnc y cyfeirir ato yn adran 354(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "pwnc sylfaen" ("foundation subject") yw pwnc y cyfeirir ato yn adran 354(1) neu (2) o Ddeddf 1996;

ystyr "Rheolidau Ymsefydlu Lloegr" ("England's Induction Regulations") yw rheoliadau a wneir o bryd i'w gilydd o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 9)mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;

ystyr "sefydliad" ("institution") yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg chweched dosbarth lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn, yn ôl y cyd-destun;

mae i "sesiwn ysgol" ("school session") yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000( 10);

mae "tymor ysgol" ("school term") yn cynnwys tymor coleg chweched dosbarth;

mae i "ysgol arbennig" yr un ystyr ag sydd i "special school" yn adran 337(1) o Ddeddf 1996 ( 11);

ystyr "ysgol arbennig nas cynhelir" ("non-maintained special school") yw ysgol arbennig nad ydyw'n ysgol arbennig gymunedol nac ychwaith yn ysgol arbennig sefydledig;

mae i "ysgol berthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant school" gan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at -

(a) reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;(b) paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; ac(c) is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.

Torri terfynau amser

3. Ni fydd methiant ar ran unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a nodir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r dyletswydd hwnnw.

Corff priodol

4. At ddibenion y Rheoliadau hyn -

(a) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir (ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998) yw'r awdurdod sy'n ei chynnal;(b) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol arbennig nas cynhelir yw'r awdurdod ar gyfer yr ardal y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi;(c) y corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol yw - (i) awdurdod, neu(ii) unrhyw bersonau neu gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu, a bydd y personau hynny neu'r corff hwnnw yn cynnwys cynrychiolydd awdurdod fel aelod; a(ch) y corff priodol mewn perthynas â choleg chweched dosbarth yw awdurdod.

Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu

5. Yn ddarostyngedig i'r eithriadau yn Atodlen 1, nid oes unrhyw berson i gael ei gyflogi ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol oni bai fod y person hwnnw wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth y mae rheoliad 6(1) yn cyfeirio atynt.

Yr ysgolion lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu

6. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn y canlynol y gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu -

(a) ysgol berthnasol yng Nghymru ac eithrio ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig sydd wedi ei sefydlu mewn ysbyty; neu(b) o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (3) ysgol annibynnol yng Nghymru; neu(c) o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (4) goleg chweched dosbarth yng Nghymru; neu(ch) ysgol neu goleg chweched dosbarth yn Lloegr y gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu ynddi neu ynddo o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

(2) Ni ellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu -

(a) mewn ysgol yng Nghymru y mae'r amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 15(6)(a) i (c) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â hwy, oni bai - (i) bod y person dan sylw wedi dechrau ei gyfnod ymsefydlu neu wedi cael ei gyflogi fel athro neu athrawes raddedig neu athro neu athrawes gofrestredig yn yr ysgol ar adeg pan nad oedd amgylchiadau o'r fath yn gymwys, neu(ii) bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ardystio yn ysgrifenedig ei fod yn fodlon bod yr ysgol yn addas at y diben o ddarparu goruchwyliaeth a hyfforddiant ymsefydlu; na(b) mewn uned cyfeirio disgyblion.

(3) Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol -

(a) yn achos person sy'n cael ei gyflogi i addysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol tri neu bedwar, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion y cyfnodau allweddol hynny yn cynnwys yr holl bynciau craidd a phynciau sylfaen eraill a nodwyd mewn perthynas â chyfnodau allweddol tri a phedwar yn adran 354(3) o Ddeddf 1996 y mae'r person hwnnw wedi'i gyflogi i'w addysgu; a(b) ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT