Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Year | 2020 |
2020Rhif (Cy.)
Y DRETH DIRLENWI, CYMRU
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed6Ionawr2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru7Ionawr2020
Yn dod i rym1Ebrill2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017( 1).
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2020.
Cymhwyso
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi
3. Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £94.15 y dunnell;
(b) y gyfradd is yw £3.00 y dunnell; ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £141.20 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
4. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018( 2), ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2020”.
6 Ionawr 2020 |
Rebecca Evans Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r gyfradd safonol, y gyfradd is a'r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i'w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
Y gyfradd safonol yw £94.15 y dunnell, y gyfradd is yw £3.00 y dunnell a'r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £141.20 y dunnell.
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2020 yn parhau'n ddarostyngedig i'r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 ( O.S. 2018/1209 (Cy. 246)) o ganlyniad i'r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
...
To continue reading
Request your trial