Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018
Jurisdiction | Wales |
2018 Rhif 969 (Cy. 196)
Ynni, Cymru
Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018
Gwnaed 4th September 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7th September 2018
Yn dod i rym 1st October 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 4 o Ddeddf Petrolewm 19981ac adrannau 188 a 192 o Ddeddf Ynni 20042ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “atal ffynnon dros dro” (“well suspension”) yw atal defnyddio ffynnon dros dro fel y gellir ei hailddefnyddio at ddiben drilio neu waith arall;
ystyr “cynnig ardal ddatblygu” (“development area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio’r lleoliadau daearyddol o fewn maes petrolewm pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gwaith datblygu a chynhyrchu gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, cynllun sy’n nodi’r gweithgareddau i’w gwneud;
ystyr “cynnig ardal gadw” (“retention area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio lleoliadau daearyddol pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gweithgareddau fforio a gwerthuso;
mae “ffynnon” (“well”) yn cynnwys twll turio;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sydd wedi ei benodi’n weithredwr gosod, yn weithredwr ffynnon neu’r ddau;
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu’n ysgrifenedig;
ystyr “rhaglen ddatblygu a chynhyrchu” (“development and production programme”) yw rhaglen a gyflwynir yn unol â thrwydded petrolewm sy’n nodi’r mesurau y cynigir eu cymryd mewn cysylltiad â datblygu a chynhyrchu maes petrolewm;
ystyr “rhaglen waith” (“work programme”) yw rhaglen sydd wedi ei nodi mewn atodlen i drwydded petrolewm sy’n nodi’r archwiliadau sydd i’w cynnal yn ystod y tymor cychwynnol, gan gynnwys unrhyw arolwg daearegol drwy unrhyw ddull ffisegol neu gemegol ac unrhyw brofion drilio;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ceisiadau) 20153;
mae i “trwydded datblygu a fforio petrolewm” yr ystyr a roddir i “petroleum exploration and development licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded draenio methan” yr ystyr a roddir i “methane drainage licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
mae i “trwydded fforio petrolewm tua’r tir” yr ystyr a roddir i “landward petroleum exploration licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
ystyr “trwydded petrolewm” (“petroleum licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 3 o Ddeddf Petrolewm 1998 (chwilio am betrolewm, ei durio a chael gafael arno) neu o dan adran 2 o Ddeddf Petrolewm (Cynhyrchu) 1934 (trwyddedau i chwilio am betrolewm a chael gafael arno)4; ac
ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw deiliad trwydded petrolewm.
Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer cais am drwydded petrolewm
3. Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded petrolewm a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Math o drwydded |
Y ffi sy’n daladwy |
Trwydded fforio petrolewm tua’r tir |
£500 |
Trwydded draenio methan |
£50 |
Trwydded datblygu a fforio petrolewm |
£1,400 |
Ffi am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu
4.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu dalu ffi.
(2) Mae swm y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn cael ei bennu gan y fformiwla—
pan fo—
A yn nifer y diwrnodau; a
B yn nifer y swyddogion
sy’n ofynnol er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch y cais.
(3) Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “swyddog” (“officer”) yw person a gymerir ymlaen gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, i gyflawni’r swyddogaeth y mae’r ffi berthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hi.
Y ffi sy’n daladwy am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu
5.—(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu...
To continue reading
Request your trial