The Meat Preparations (Amendment and Transitory Modification) (Wales) (Amendment) Regulations 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | SI 2024/17 (W6) |
2024 Rhif 17 (Cy. 6)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 8th January 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9th January 2024
Yn dod i rym 30th January 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20111.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2024.
Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
2. Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20212, yn lle “31 Ionawr” rhodder “29 Ebrill”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2024
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 ( O.S. 2011/2379) (Cy. 252).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ( O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig fod wedi eu rhewi’n ddwfn pan fônt yn cael eu mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, gan gysoni â’r dyddiad a benodwyd yn ddyddiad dod i ben estynedig y “cyfnod graddoli trosiannol”, a ddiffinnir yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 (EUR 2017/625). Mae’r estyniad hwn hyd 29 Ebrill 2024.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
To continue reading
Request your trial