The Port Talbot Harbour (Extension of Limits) Harbour Revision Order 2024
Jurisdiction | Wales |
Year | 2024 |
Citation | SI 2024/147 (W32) |
2024 Rhif 147 (Cy. 32)
Harbyrau, Dociau, Pierau A Fferïau
Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024
Gwnaed 13th February 2024
Yn dod i rym 24th February 2024
Yn unol ag adran 14(1) o Ddeddf Harbyrau 19641(“y Ddeddf”), mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud mewn perthynas â harbwr sy’n cael ei wella, ei gynnal neu ei reoli gan awdurdod harbwr wrth arfer a chyflawni pwerau a dyletswyddau statudol, i gyflawni amcanion a bennir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf2.
Mae Associated British Ports, sef yr awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot, wedi gwneud cais yn unol ag adran 14(2)(a) o’r Ddeddf am orchymyn diwygio harbwr o dan adran 14 o’r Ddeddf.
Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol at ddiben yr adran honno wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru3.
Mae hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn unol â gofynion paragraff 10 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ac mae darpariaethau paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf wedi eu bodloni. Ni wnaed unrhyw wrthwynebiadau i’r cais.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) a (3) o’r Ddeddf, a chan eu bod yn fodlon bod gofynion adran 14(2)(b) ac 14(2B) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2024.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr ardal ychwanegol” (“the added areathe added area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a ddangosir at ddiben adnabod yn unig ar y cynllun a nodir yn Atodlen 2;
ystyr “awdurdod yr harbwr” (“the harbour authoritythe harbour authority”) yw Associated British Ports yn rhinwedd bod yn awdurdod harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot;
ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Actthe 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau, a Phierau 18474;
ystyr “Deddf 1899” (“the 1899 Actthe 1899 Act”) yw Deddf Rheilffordd a Dociau Port Talbot 18995;
ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Actthe 1964 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 19646;
ystyr “Deddf 1971” (“the 1971 Actthe 1971 Act”) yw Deddf Dociau Trafnidiaeth Prydain 19717;
ystyr “Harbwr Port Talbot” (“Port Talbot HarbourPort Talbot Harbour”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n cynnwys ymgymeriad Associated British Ports ym Mhort Talbot;
ystyr “is-ddeddfau presennol yr harbwr” (“the existing harbour byelawsthe existing harbour byelaws”) yw is-ddeddfau Harbwr Port Talbot dyddiedig 1 Mawrth 1923, fel y’u hategir gan yr is-ddeddfau dyddiedig 29 Ebrill 1927.
Estyn terfynau awdurdodaeth
3.—(1) Mae terfynau Harbwr Port Talbot fel y’u diffinnir yn adran 23 (Terfynau presennol yr harbwr) o Ddeddf 1899 ac fel y’u hestynnir gan adran 19 (Estyn awdurdodaeth y docfeistr a’r harbwrfeistr, a therfynau’r harbwr) o Ddeddf 1971 yn cael eu hestyn ymhellach i gynnwys yr ardal ychwanegol.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 4, bydd yr holl ddeddfiadau sy’n rhoi hawliau a phwerau i awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, neu sy’n gosod dyletswyddau, rhwymedigaethau neu atebolrwyddau ar awdurdod yr harbwr neu ei harbwrfeistr, a gafodd effaith yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym o fewn yr harbwr, i gael effaith yn yr ardal ychwanegol.
Cymhwyso deddfwriaeth bresennol
4.—(1) Mae Deddf 1847 yn cael effaith yn yr ardal ychwanegol fel y’i hymgorfforir â Deddf 1964 mewn perthynas â gweithfeydd Port Talbot a awdurdodir gan y Ddeddf honno.
(2) Ni fydd is-ddeddfau presennol yr harbwr yn gymwys i’r ardal ychwanegol.
(3) Ni ellir codi tollau llongau, nwyddau na theithwyr o fewn ystyr Deddf Harbyrau 1964 ar unrhyw long nac ar nwyddau a gludir ar y llong honno dim ond am fod y llong yn pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol ar fordaith i le, ac o le, y tu allan i Harbwr Port Talbot.
(4) Ni chaniateir codi taliadau llywio o dan adran 10 (taliadau llywio) o Ddeddf Llywio 19878ar unrhyw lestr sy’n pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol sy’n teithio i ardal awdurdod harbwr cymwys arall neu oddi yno, ac sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd llywio gorfodol a wneir gan yr awdurdod hwnnw.
(5) Yn yr erthygl...
To continue reading
Request your trial