The Renting Homes (Fitness for Human Habitation) (Wales) (Amendment) Regulations 2022
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2022/1076 (W227) |
Year | 2022 |
2022 Rhif 1076 (Cy. 227)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed 24th October 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25th October 2022
Yn dod i rym 30th November 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022
2.—(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 20222wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 (diogelwch trydanol)—
(a)
(a) ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(b)
(b) ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(c)
(c) ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(d)
(d) ym mharagraff (8), yn y diffiniad o “safonau diogelwch trydanol”, yn lle “BS 7671:2018+A1:2020”, rhodder “BS 7671:2018+A2:20223”.
(3) Yn rheoliad 7 (cymhwyso i gontractau wedi eu trosi), ym mharagraff (5), ym mharagraff (4) a amnewidiwyd, yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2022
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 ( O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“Rheoliadau 2022”) sy’n rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.
Mae rheoliad 2(2)(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(3) o Reoliadau 2022 fel bod gan y landlord 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar a chadarnhad ysgrifenedig o unrhyw waith ymchwilio neu atgyweirio a wnaed ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud ag ef.
Mae rheoliad 2(2)(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(4) o Reoliadau 2022...
To continue reading
Request your trial