The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) (Amendment) Regulations 2023
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2023/466 (W70) |
2023 Rhif 466 (Cy. 70)
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 25th April 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 26th April 2023
Yn dod i rym 29th April 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(e) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911.
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2023.
Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
2.—(1) Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau), yn lle “30 Ebrill 2023” rhodder “31 Hydref 2023”.
(3) Yn rheoliad 4(4)(b) (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad), yn lle “30 Ebrill” rhodder “31 Hydref”.
(4) Yn rheoliad 36(6) (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—
(a)
(a) yn y diffiniad o “cyfnod o 12 mis blaenorol”, ym mharagraff (b)—
(i) yn is-baragraff (i), yn lle “30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024” rhodder “31 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024”, a
(ii) yn is-baragraff (ii), yn lle “30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill” rhodder “31 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref”;
(b)
(b) yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol”, ym mharagraff (b), yn lle “31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst” rhodder “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2023
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 30 Ebrill 2023 i 31 Hydref 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12...
To continue reading
Request your trial