Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017
Year | 2017 |
2017 Rhif 638 (Cy. 144)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017
Gwnaed 4th May 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th May 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10, 28, 29, 74, 911a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19902ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 28B a 44D o’r Ddeddf honno4, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a)
(a) y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 2(4) a (5), a rheoliad 2(4) a (5), ar 31 Mai 2017; a
(b)
(b) rheoliad 2(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â gweddill y darpariaethau, a gweddill y darpariaethau, ar 1 Medi 2017.
Diwygiadau i Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 20125wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)
“(c) y datganiad o’r effaith ar dreftadaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6;”.
(3) Yn lle rheoliad 6 a’i bennawd rhodder—
“Datganiadau o’r effaith ar dreftadaeth
6.—(1) Rhaid i unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ddod gyda datganiad o’r effaith ar dreftadaeth.
(2) Mewn perthynas â chais am ganiatâd adeilad rhestredig, rhaid i ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth gynnwys—
(a)
(a) disgrifiad o’r gwaith arfaethedig (“y gwaith”), gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau dylunio a rhestr o’r gwaith;
(b)
(b) esboniad o’r amcan y bwriedir ei gyflawni gan y gwaith a pham bod y gwaith yn ddymunol neu’n angenrheidiol;
(c)
(c) datganiad sy’n disgrifio diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef a’i arwyddocâd, gan gyfeirio’n benodol at y rhan o’r adeilad y mae’r gwaith yn effeithio arni;
(d)
(d) asesiad o effaith y gwaith ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad a’i arwyddocâd, gan gynnwys disgrifiad o unrhyw fanteision neu niwed posibl i’r diddordeb hwnnw;
(e)
(e) crynodeb o’r opsiynau a ystyriwyd at ddiben cyflawni’r amcan y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a’r rhesymau dros ffafrio’r cynigion y mae’r cais yn ymwneud â hwy; ac
(f)
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (4), disgrifiad o sut yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â mynediad sy’n codi mewn perthynas â’r...
To continue reading
Request your trial