Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001

JurisdictionUK Non-devolved

2001Rhif 2550 (Cy.215)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001

12 Gorffennaf 2001

1 Awst 2001

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol( 1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.

Pennu Cyrff Cyhoeddus

2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 2)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2001

YR ATODLEN

ENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch

Awdurdod Cwynion yr Heddlu

Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol

Yr Awdurdod Radio

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr

Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol

Y Bwrdd Marchnata Gwlân

Byrddau Prawf Lleol yng Nghymru

Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol

Y Comisiwn Gwella Iechyd

Y Comisiwn Hawliau Anabledd

Y Comisiwn Safonau Darlledu

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru

Y Cyngor Ffilm

Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol

Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol

Y Gronfa Cyfleoedd Newydd

Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau

Panel Asesu Rhenti i Gymru

Syniad

UFI Cyf.

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae dau Orchymyn blaenorol wedi'u...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT