Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2007/395 (Cymru) |
2007 Rhif 395 (Cy.41)
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL, CYMRUCYFLOGAU AMAETHYDDOL
Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 14th February 2007
Yn dod i rym 1st March 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 19481, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974
2. Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 19742wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;
(b) yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac
(c) yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu un pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer cyfuniad o'r holl siroedd yng Nghymru drwy wneud y diwygiadau angenrheidiol i Orchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974.
To continue reading
Request your trial