ATODLEN 1
Rheoliad 2
OFFERYN LLYWODRAETHU
CYNNWYS
1. Dehongli
2. Aelodaeth y Gorfforaeth
3. Penderfynu niferoedd yr aelodau
4. Penodiadau
5. Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd
6. Penodi'r Clerc
7. Cymhwystra
8. Tymor swydd
9. Terfynu aelodaeth
10. Aelodau i beidio a bod a buddiannau mewn materion sy'n ymwneud a'r sefydliad
11. Cyfarfodydd y Gorfforaeth
12. Cworwm
13. Trafodion cyfarfodydd
14. Cofnodion
15. Mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth
16. Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau
17. Lwfansau i aelodau
18. Copïau o'r Offeryn Llywodraethu
19. Newid enw
20. Gosod y sêl
Dehongli
1.-(1) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn-
ystyr "aelod" ("member") yw aelod o'r Gorfforaeth;
ystyr "Cadeirydd" ("Chair") yw cadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr "Clerc" ("Clerk") yw Clerc y Gorfforaeth;
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gwyl banc neu wyl gyhoeddus arall;
ystyr "y Gorfforaeth" ("the Corporation") yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria;
ystyr "Is-gadeirydd" ("Vice-Chair") yw is-gadeirydd y Gorfforaeth;
ystyr "materion staff" ("staff matters") yw penodiad, tal, amodau gwasanaeth, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;
ystyr "myfyriwr" ("student") yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad ac mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio neu deithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;
ystyr "Pennaeth" ("Principal") yw prif weithredwr y sefydliad; ac
ystyr "y sefydliad" ("the institution") yw Coleg Cambria ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei phwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 3).
(2) Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, mewn perthynas ag aelodau-
(a) mae cyfeiriadau at "categori amrywiol" ("variable category") yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y caniateir i'w niferoedd amrywio yn unol a pharagraffau 2 a 4; a(b) mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2-"Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru" ("Welsh Ministers Appointed Members");
"aelodau awdurdod lleol" ("local authority members");
"aelodau busnes" ("business members");
"aelodau cyfetholedig" ("co-opted members");
"aelodau cymunedol" ("community members");
"aelodau myfyrwyr" ("student members");
"aelodau rhieni" ("parent members"); ac
"aelodau staff" ("staff members").
Aelodaeth y Gorfforaeth
2.-(1) Rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys-
(a) hyd at saith aelod sydd, neu a fu, yn ymwneud a neu'n gyflogedig mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes arall o waith sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau busnes");(b) hyd at dri aelod a gyfetholwyd gan aelodau'r Gorfforaeth (a gelwir hwy'n "aelodau cyfetholedig");(c) o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n staff wedi'u cyflogi gan y sefydliad ac a enwebwyd gan staff y sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau staff"). Os oes mwy nag un aelod staff, rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod o'r staff addysgu ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt, a rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel un o aelodau eraill staff y sefydliad ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt;(d) o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad ac sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan fyfyrwyr y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli myfyrwyr y sefydliad (a gelwir hwy'n "aelodau myfyrwyr");(e) hyd at ddau aelod sy'n rhieni i fyfyrwyr o dan 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r sefydliad, sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan rieni eraill o'r fath neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli rhieni o'r fath (a gelwir hwy'n "aelodau rhieni");(f) o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan awdurdodau lleol a bennir gan y Gorfforaeth (a gelwir hwy'n "aelodau awdurdod lleol");(g) o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol yr ymddengys i'r aelodau eraill eu bod yn cynrychioli buddiannau adran o'r gymuned leol a enwebwyd gan yr aelodau eraill (a gelwir hwy'n "aelodau cymunedol") (at ddibenion y paragraff hwn mae "corff cymunedol" yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw);(h) Pennaeth y sefydliad (onid yw'r Pennaeth yn dewis peidio a bod yn aelod); ac(i) hyd at ddau aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000( 4) (a gelwir hwy'n "Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru").(2) Rhaid i unrhyw gwestiwn parthed a yw person yn gymwys yn unol ag is-baragraff (1) i'w benodi'n aelod i unrhyw gategori gael ei benderfynu gan yr awdurdod penodi perthnasol fel a bennir ym mharagraff 4.
Penderfynu niferoedd yr aelodau
3.-(1) Yn ei gyfarfod cyntaf, rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar-
(a) cyfanswm yr aelodau (ac eithrio unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru); a(b) nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol.(2) Caiff y Gorfforaeth ar unrhyw adeg amrywio'r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniadau olynol o dan y paragraff hwn.
(3) Rhaid i unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn sicrhau-
(a) bod nifer yr aelodau, heb gynnwys yr Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn 12 o leiaf ac nid yn fwy nag 20;(b) bod nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol o fewn y terfynau a osodir ym mharagraff 2; ac(c) bod nifer yr aelodau busnes yn hafal i draean o gyfanswm yr aelodau, heb gynnwys unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, wedi ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyflawn agosaf.(4) Ni chaiff unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn effaith a fyddai'n terfynu penodiad unrhyw berson sydd eisoes yn aelod ar yr adeg y daw'n effeithiol.
Penodiadau
4.-(1) Y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas a phenodi unrhyw aelod ac eithrio-
(a) Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru;(b) yr aelodau cyntaf, a benodir gan Weinidogion Cymru; ac(c) os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, y cyfryw nifer o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.(2) Os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod penodi mewn perthynas a phenodiad y nifer hwnnw o aelodau sy'n ofynnol ar gyfer cworwm.
(3) Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os bodlonir yr awdurdod-
(a) nad oes gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig fel y'u diffinnir yn is-baragraff (4);(b) bod y person, o fewn y deng mlynedd blaenorol, wedi cael ei symud ymaith o swydd fel aelod o gorfforaeth addysg bellach neu sefydliad a ddynodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 5);(c) y byddai penodi'r person yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu;(d) nad yw'r person yn gymwys i fod yn aelod yn rhinwedd paragraff 7; neu(e) yn achos person sydd i'w benodi yn aelod busnes, aelod cyfetholedig, aelod awdurdod lleol neu'n aelod cymunedol, bod y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o dan erthygl 8 o'r Erthyglau Llywodraethu) wedi cynghori na ddylid penodi'r person.(4) Yn y paragraff hwn ystyr "y sgiliau a'r profiad penodedig" ("specified skills and experience") yw'r sgiliau a'r profiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth eu bod yn briodol i aelodau.
(5) Pan fo swydd unrhyw aelod ac eithrio'r Pennaeth neu Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru yn dod yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gymryd pob cam angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r swydd wag.
(6) Caiff aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd etholedig o'r awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol neu'n unrhyw berson arall a enwebir gan yr awdurdod lleol.
(7) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhoi'r hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un neu ragor o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1)(c) i (g) i lenwi unrhyw swydd wag unigol.
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd
5.-(1) Rhaid i'r aelodau sy'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth a gynhelir cyn penodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd am y tro cyntaf o dan is-baragraff (2) ddewis un o'u nifer i weithredu fel cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
(2) Rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei haelodau.
(3) Ni chaniateir penodi'r Pennaeth nac unrhyw aelod staff nac unrhyw aelod myfyrwyr yn Gadeirydd nac yn Is-gadeirydd.
(4) Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn dal eu swyddi am ba bynnag gyfnod a benderfynir gan y Gorfforaeth.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol ddewis un o'u plith i weithredu fel cadeirydd ar gyfer...